Dyfarnwyd cyllid i 13 o grwpiau cymunedol ledled Gwent i gefnogi pobl ifanc

Dyfarnwyd cyllid i 13 o grwpiau cymunedol ledled Gwent i gefnogi pobl ifanc

Daeth grwpiau cymunedol o bob rhan o Went ynghyd ym mis Mawrth ar gyfer digwyddiad flynyddol Eich Llais, Eich Dewis – diwrnod lle mae lleisiau lleol yn helpu llywio sut mae cyllid yn cael ei ddyfarnu.

Cynhaliwyd y digwyddiad yn Sefydliad Glowyr Llanhiledd yn Abertyleri, gan ddod â 13 o sefydliadau ar lawr gwlad ynghyd, sydd i gyd yn cefnogi ac yn ysbrydoli pobl ifanc yn eu cymunedau. Cafodd pob grŵp bum munud i rannu eu gwaith, siarad am eu cynlluniau, a chysylltu ag eraill sy’n gwneud gwahaniaeth ledled Gwent.

Cynhelir y digwyddiad mewn partneriaeth rhwng Cronfa Gymunedol Uchel Siryfion Gwent, Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, a Sefydliad Cymunedol Cymru. Mae’n dilyn dull cyfranogol, gan roi rôl ystyrlon i sefydliadau lleol yn y broses o ddyrannu cyllid, a helpu i sicrhau bod cymorth yn cyrraedd lle mae ei angen fwyaf.

Ar ôl pob cyflwyniad, pleidleisiodd y grwpiau dros y prosiectau yr oeddent yn teimlo fyddai’n cael yr effaith fwyaf. Helpodd y pleidleisiau hyn lywio sut y dyfarnwyd grantiau o hyd at £7,500, gan sicrhau bod mewnwelediad y gymuned yn chwarae rhan ganolog yn y broses.

Yn ogystal â grantiau untro, cafodd dau sefydliad – The Parish Trust ac Urban Circle – gyllid aml-flwyddyn, gan roi’r sefydlogrwydd iddynt gynllunio ymlaen llaw a datblygu eu gwaith dros y tair blynedd nesaf.

Roedd y diwrnod yn dathlu ymroddiad gwirfoddolwyr a sefydliadau lleol sy’n cefnogi pobl ifanc ledled Gwent, boed hynny drwy fentora, prosiectau creadigol, neu greu mannau diogel i gysylltu a datblygu. Gyda’i gilydd, maent yn helpu pobl ifanc i feithrin hyder, dod o hyd i gyfleoedd newydd, ac osgoi troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Dywedodd Asha Vijendran, Pennaeth Grantiau yn Sefydliad Cymunedol Cymru:

“Mae’r digwyddiad hwn yn ein hatgoffa’n fod y bobl sydd agosaf at y gwaith yn aml yn gwybod orau lle mae angen cymorth. Mae clywed y grwpiau hyn yn rhannu eu straeon, ac yna’n cefnogi ei gilydd drwy eu pleidleisiau, bob amser yn brofiad pwerus iawn. Nid yw’n ymwneud â chyllid yn unig, ond â meithrin ymddiriedaeth, cysylltiadau, a rhoi llais gwirioneddol i gymunedau wrth lunio eu dyfodol.”

Dyfarnodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Jane Mudd, £65,000 i gefnogi’r gronfa. Dywedodd:

“Rwy’n falch o gefnogi mentrau sy’n cael eu harwain gan y gymuned ac sy’n helpu plant a phobl ifanc i fyw bywydau hapusach, iachach a mwy diogel. Mae pob un o’r prosiectau hyn yn cyd-fynd ag amcanion fy Nghynllun yr Heddlu, Troseddu a Chyfiawnder, gan hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol a chreu cyfleoedd i bobl ifanc.

“Mae’r dull partneriaeth hwn o ariannu yn sicrhau bod buddsoddiad yn cael ei gyfeirio’n uniongyrchol i’n cymunedau lle gall wneud y gwahaniaeth mwyaf i’n plant a’n pobl ifanc.”

Dywedodd yr Is-gyrnol Ralph Griffin, Uchel Siryf Gwent 2025/2026:

“Mae Eich Llais, Eich Dewis yn garreg filltir bwysig i’r Uchel Siryf. Mae’n dod â’r gymuned ynghyd i wneud penderfyniadau ar y cyd ynghylch pa sefydliadau sydd angen cymorth. Mae’n hyfryd clywed am yr amrywiaeth o geisiadau gwahanol.

“Yr hyn sy’n gwneud y digwyddiad yn unigryw yw’r cyflwyniadau gan bob sefydliad. Mae’r angerdd a’r hyder yn hyfryd. Mantais y dull hwn yw bod pob grŵp yn cael cyfle i ddeall heriau ei gilydd yn well ac i ddysgu o syniadau da eraill.

“Eleni, diolch i haelioni’r cyllid a roddwyd gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu, y Gwent Nurture Fund a Chronfa Gymunedol yr Uchel Siryf, cafodd pob sefydliad a oedd yn bresennol y swm mwyaf posibl. Fel Uchel Siryf, roedd hyn yn rhoi boddhad mawr i mi oherwydd bydd cymaint o’r achosion teilwng hyn yn cael eu cefnogi yn ystod y flwyddyn i ddod.”

Grwpiau a dderbyniwyd cyllid yn ddigwyddiad 2026:

  • Savoy Youth Theatre
  • Ready Steady Go
  • Gwent Young Farmers
  • Mountain & Marsh Ministry
  • Kidz R Us
  • AB Boxing
  • Bengal Dragons
  • The Family & Community Group
  • Made in Tredegar
  • Creations of Cymru
  • Newbridge Memo
  • The Parish Trust (cyllid aml-flwyddyn)
  • Urban Circle (cyllid aml-flwyddyn)

News

Gweld y cyfan
Mae’r Randal Foundation yn cefnogi 19 o sefydliadau ar llawr gwlad ledled Cymru

Mae’r Randal Foundation yn cefnogi 19 o sefydliadau ar llawr gwlad ledled Cymru

The Goodwash Company yn cryfhau ei gefnogaeth i gymunedau Cymru

The Goodwash Company yn cryfhau ei gefnogaeth i gymunedau Cymru

Rydym wedi lansio ein Hwb Grantiau newydd!

Rydym wedi lansio ein Hwb Grantiau newydd!

Dyfarnwyd £600,000 i gymunedau ledled Cymru drwy bartneriaeth gyda’r Principality

Dyfarnwyd £600,000 i gymunedau ledled Cymru drwy bartneriaeth gyda’r Principality