Ysbrydoli gwyddonwyr y dyfodol
“Rhoddodd y gweithdai hyn gyfleoedd da i fyfyrwyr weithio mewn tîm ac i fod yn gyfrifol am wneud pethau ar eu pen eu hunain.”
Mae gan Techniquest Glyndŵr fwy na 10 mlynedd o brofiad ag addysg gwyddoniaeth anffurfiol ac mae wedi cynnal nifer o ddiwrnodau gwyddoniaeth oddi ar y cwricwlwm. Dyfarnodd y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru £1,000 iddo drefnu gweithdai gwyddoniaeth ymarferol ar gyfer dwy ysgol yn Sir Ddinbych er mwyn helpu disgyblion i ddatblygu ac atgyfnerthu sgiliau cyflogadwyedd megis gwaith tîm, cyfathrebu a meddwl yn ddadansoddol.
Defnyddiodd Techniquest Glyndŵr yr arian i gynllunio gweithdai ymarferol a rhyngweithiol er mwyn rhoi blas i fyfyrwyr ar yrfaoedd ym maes Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) gyda’r nod o’u hannog i ystyried y meysydd hyn wrth i’w bywydau academaidd a phroffesiynol ddatblygu.
Roedd llawer o’r myfyrwyr yn teimlo bod y gweithdai wedi rhoi gwybodaeth gynhwysfawr iddynt am yrfaoedd ym maes STEM, ac roedd rhai hyd yn oed wedi dweud eu bod bellach yn fwy tebygol o ystyried gyrfa drwy ddefnyddio sgiliau STEM.
Roedd tynnu’r myfyrwyr allan o’u bywydau ysgol pob dydd a’u rhoi mewn amgylchedd lle mae gweithio mewn tîm a chyfathrebu yn hollbwysig wedi’u helpu i feithrin y sgiliau hanfodol hyn y gellir eu defnyddio yn eu bywydau yn yr ysgol a thu hwnt.
Stories
Buddsoddi mewn pobl, sgiliau a threftadaeth: cefnogi’r genhedlaeth nesaf o grefftwyr Cymreig
Cafodd tri unigolyn o Gymru bwrsariaethau i ddatblygu sgiliau arbenigol mewn gwaith gof, melino hetiau, a gwaith coed, sy’n helpu i ddiogelu traddodiadau crefft, gan hefyd agor drysau newydd i bobl sy’n wynebu rhwystrau sylweddol i hyfforddiant a chyflogaeth.