Effaith ar Waith: Ymweliad ag Ysgol Bêl-droed Goalgetters

Ym mis Tachwedd 2025, fe wnaethom ymweld â Goalgetters Soccer School CIC i wylio eu twrnamaint yng Nghwm Afan, wrth iddynt chwarae mewn ysgol leol ym Mhort Talbot.

Flwyddyn diwethaf, derbyniodd Goalgetters grant aml-flwyddyn sylweddol gan ein Cronfa Cenedlaethau’r Dyfodol, mewn partneriaeth â Chymdeithas Adeiladu’r Principality, i helpu sefydlu a datblygu eu hysgol bêl-droed.

Er gwaethaf y glaw, roedd awyrgylch y diwrnod yn llawn egni a brwdfrydedd gan bawb a oedd yn rhan ohono: chwaraewyr, gwirfoddolwyr, staff a chyllidwyr fel ei gilydd!

Er bod y twrnamaint ei hun yn gystadleuol, yr hyn a oedd yn sefyll allan fwyaf oedd yr ymdeimlad cryf o gymuned oedd yn amgylchynu’r digwyddiad a’r cyfeillgarwch oedd wedi datblygu, rhywbeth y siaradodd llawer o’r plant amdano.

Roeddem wedi’n plesio’n fawr o weld cymaint yr oedd y plant yn mwynhau bod yn rhan o Goalgetters, a’r parch oedd ganddynt tuag at ei gilydd, yn ogystal ag at yr arweinwyr Ryan a Matty.

Hoffem ddiolch i staff a gwirfoddolwyr Goalgetters Soccer School am ganiatáu i ni ymweld a gweld eu gwaith ar waith, yn ogystal â Chymdeithas Adeiladu’r Principality am ein helpu i gefnogi grwpiau ar lawr gwald mor wych ledled Cymru.

Os hoffech weld crynodeb o’r digwyddiad, cliciwch i wylio’r fideo isod.

Goalgetters Soccer School