Ein hymddiriedolwyr ac aelodau pwyllgor
Mae Sefydliad Cymunedol Cymru yn cael ei arwain gan Fwrdd o Ymddiriedolwyr ac Aelodau Pwyllgor sy’n dod ag ystod eang o sgiliau, profiad a safbwyntiau i’n gwaith. Gyda’i gilydd, maent yn darparu arweinyddiaeth strategol, yn sicrhau llywodraethu da ac yn ein helpu i barhau i ganolbwyntio ar droi haelioni yn effaith i gymunedau ledled Cymru.
Gallwch ddargnafod mwy am ein hymddiriedolwyr ac aelodau pwyllgor isod. Gyda’i gilydd, maent yn helpu i sicrhau ein bod yn parhau’n sefydliad cryf, effeithiol ac atebol.
Rydym yn adolygu’r sgiliau a’r profiad a gynrychiolir ar ein Bwrdd a’n pwyllgorau yn rheolaidd ac, o bryd i’w gilydd, yn recriwtio ymddiriedolwyr newydd ac aelodau cyfetholedig ar bwyllgorau. P’un a oes gennych brofiad blaenorol o lywodraethu neu eich bod yn ystyried eich rôl lywodraethu gyntaf, rydym yn croesawu diddordeb gan bobl o bob cefndir.
Rydyn ni’n recriwtio am unigolion brwdfrydig ac ymroddedig i ymuno â’n Bwrdd Ymddiriedolwyr ar hyn o bryd, i helpu arwain gwaith Sefydliad Cymunedol Cymru. Gallwch ddarganfod mwy isod.
Ymunwch â’n Bwrdd Ymddiriedolwyr
Fel ymddiriedolwr, fe fyddwch chi’n chwarae rhan bwysig yn y gwaith o sicrhau bod Sefydliad Cymunedol Cymru yn parhau i gael ei lywodraethu’n dda, yn gynaliadwy yn ariannol ac yn canolbwyntio ar gyflawni ei amcanion elusennol. Mae hon yn rôl wirfoddol, ddi-dâl, er y gellir ad-dalu treuliau rhesymol yn unol â’n polisïau. Dyddiad cau: dydd Llun 28 Medi 2026.
Darganfod mwy