Dibynadwy
Rydyn ni’n trin perthnasoedd, adnoddau a phenderfyniadau yn onest, yn foesegol ac yn dryloyw.
Mae Sefydliad Cymunedol Cymru yn adeiladu ar y traddodiad hwnnw. Rydyn ni’n gweithio gyda rhoddwyr i gefnogi’r cymunedau lleol sy’n bwysig iddyn nhw, gan wneud yn siŵr bod haelioni’n creu’r daioni fwyaf posib.
Rydyn ni’n gweithio gydag unigolion, teuluoedd, busnesau, ymddiriedolaethau elusennol ac ymgynghorwyr proffesiynol, gan eu helpu i seilio haelioni ar y lleoedd a’r achosion sydd bwysicaf iddyn nhw. Ar yr un pryd, rydyn ni’n helpu sefydliadau ar lawr gwlad, unigolion ac entrepreneuriaid ifanc i dderbyn cyllid hanfodol trwy ein rhaglen grantiau.
Rydyn ni’n trin perthnasoedd, adnoddau a phenderfyniadau yn onest, yn foesegol ac yn dryloyw.
Rydyn ni’n rhoi pobl yn gyntaf, gan wrando ar ein gilydd a’r bobl rydyn ni’n gweithio gyda nhw. Rydyn ni’n gweithredu gyda charedigrwydd, gan siapio ein gwaith o amgylch anghenion lleol a phrofiadau bywyd.
Rydyn ni’n uchelgeisiol dros Gymru, dros ein sefydliad ac ar ein rhan ein hunain, gan gryfhau haelioni er mwyn creu mwy o effaith i gymunedau.
Rydyn ni’n gweithio’n agored ac mewn partneriaeth, gan rannu gwybodaeth a meithrin cysylltiadau sy’n cryfhau haelioni ledled Cymru.
Cyfarfod â’r staff sy’n gweithio gyda rhoddwyr, partneriaid a chymunedau ledled Cymru i helpu haelioni i greu effaith ystyrlon.
Cyfarfod â'n tîm
Mae ein Bwrdd Ymddiriedolwyr ac Aelodau Pwyllgor yn helpu i lywio’r sefydliad, gan sicrhau ein bod yn parhau’n driw i’n pwrpas ac yn parhau i wasanaethu cymunedau ledled Cymru.
Darganfod mwyDysgwch fwy am Sefydliad Cymunedol Cymru, ein buddion staff, cyfleoedd gwirfoddoli a’r ffyrdd y gallwch gymryd rhan yn ein gwaith.
Gweld cyfleoedd
Dysgwch fwy am y polisïau, y trefniadau llywodraethu a’r egwyddorion sy’n llywio ein gwaith.
Darganfod sut rydym yn gweithio
Dysgwch sut rydyn ni’n helpu i wneud y broses o roi grantiau’n fwy tryloyw drwy ein hymrwymiad i 360Giving.
Dysgu am 360Giving