Pam rhoi drwy Sefydliad Cymunedol Cymru?

Mae rhoi’n cefnogi achos sy’n bwysig i chi’n uniongyrchol. Mae rhoi drwy Sefydliad Cymunedol Cymru yn cysylltu eich haelioni â’r cymunedau lle gall gael yr effaith fwyaf.

Gyda gwybodaeth leol, perthnasoedd dibynadwy a degawdau o brofiad, rydym yn helpu i wneud rhoi yn syml, yn effeithiol ac yn ystyrlon. O ddiwydrwydd dyladwy a llywodraethu i broses rhoi grantiau ac adrodd, rydym yn gofalu am yr ochr ymarferol fel y gallwch chi ganolbwyntio ar y gwahaniaeth rydych am ei wneud.

Ffyrdd o gefnogi eich cymuned

Haelioni

Creu cronfa

P'un a ydych chi'n creu cronfa newydd, yn trosglwyddo ymddiriedolaeth elusennol neu'n archwilio opsiynau cronfa arbenigol, byddwn ni'n eich helpu i ddod o hyd i'r dull sy'n iawn i chi.

Darganfyddwch fwy
Haelioni

Dod yn Gyfaill

Ymunwch â chymuned gynyddol o bobl y mae cymunedau ar lawr gwlad ledled Cymru yn bwysig iddyn nhw, ac arhoswch mewn cysylltiad ag effaith eich cefnogaeth.

Darganfyddwch fwy
Haelioni

Rhoi drwy eich busnes

Partnerwch â ni i gyflawni eich nodau buddsoddi cymunedol a chreu effaith barhaol ledled Cymru.

Darganfyddwch fwy
Haelioni

Gadael rhodd yn eich Ewyllys

Crëwch rodd barhaol sy'n adlewyrchu'r achosion a'r cymunedau sy'n bwysig i chi.

Darganfyddwch fwy
Haelioni

Cefnogi'ch cleientiaid

Rydym yn gweithio ochr yn ochr â chyfreithwyr, cyfrifwyr, cynghorwyr ariannol a rheolwyr cyfoeth i helpu cleientiaid i gyflawni eu huchelgeisiau elusennol.

Darganfyddwch fwy
Haelioni

Cronfa i Gymru

Mae gwir newid yn digwydd pan fyddwn yn buddsoddi mewn cymunedau llawr gwlad. Mae Cronfa Cymru yn cynnig ffordd i chi wneud yn union hynny.

Darganfyddwch fwy

Eich Rhodd i Gymru

Rydym yn falch o fod yn rhan o Yma am Byth | Here for Good, ymgyrch ledled Cymru rhwng Sefydliad Cymunedol Cymru, Ymchwil Canser Cymru, Sefydliad Pêl–droed Cymru ac Elusen Ambiwlans Awyr Cymru. Gyda’n gilydd, rydym wedi ffurfio partneriaeth o’r enw Eich Rhodd i Gymru, sy’n helpu pobl i ddeall sut y gall rhodd yn eu Hewyllys wneud gwahaniaeth i Gymru a’r cymunedau sy’n bwysig iddynt, gan godi ymwybyddiaeth o roi ymhlith cynghorwyr proffesiynol.

Darganfod mwy
Haelioni
Haelioni

Mae pob gweithred o haelioni yn dechrau gyda sgwrs

P’un a ydych chi’n barod i gymryd y cam nesaf neu ddim ond eisiau archwilio’ch opsiynau, rydyn ni yma i helpu. Gyda’n gilydd, byddwn yn dod o hyd i’r dull sy’n addas i chi a’r cymunedau yr hoffech eu cefnogi.

Enw

Adnoddau

Archwiliwch ein casgliad o ganllawiau, cylchlythyron, adroddiadau, digwyddiadau ac adnoddau eraill i’ch helpu i ddysgu mwy am haelioni yng Nghymru ac aros mewn cysylltiad â Sefydliad Cymunedol Cymru.

Read More
Haelioni

Straeon gan ein cefnogwyr

Mae stori y tu ôl i haelioni bob amser. Clywch gan yr unigolion, teuluoedd, busnesau a chynghorwyr proffesiynol sydd wedi dewis gweithio gyda Sefydliad Cymunedol Cymru, a darganfyddwch y gwahaniaeth y mae eu haelioni wedi’i wneud i gymunedau ledled Cymru.

Cliciwch yma
Gweld y cyfan

Cadwch mewn cysylltiad

Eisiau gweld y gwahaniaeth y gallai eich cefnogaeth ei wneud? Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr haelioni am straeon ysbrydoledig, diweddariadau cymunedol a’r newyddion diweddaraf gan Sefydliad Cymunedol Cymru.

Enw
Rwyf am wybod am: