Ein tîm

Rydym yn dîm brwdfrydig sy’n gweithio i greu daioni drwy haelioni, gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol i gymunedau ledled Cymru.

O helpu rhoddwyr i greu effaith barhaol i gefnogi elusennau a grwpiau cymunedol i gael mynediad at gyllid, rydym yn cyfuno arbenigedd, gwybodaeth leol a dealltwriaeth ddofn o gymunedau Cymru.

Rydym yn arbenigwyr mewn haelioni elusennol a dyfarnu grantiau yng Nghymru. Cysylltwch â ni, gofynnwch gwestiynau, rhannwch eich syniadau, a gadewch inni weithio gyda’n gilydd.

Cliciwch ar aelod o’r tîm i ddysgu mwy amdanynt.

Prif Weithredwr a Dirprwy Brif Weithredwr

Arwain y sefydliad a helpu i lunio dyfodol haelioni yng Nghymru. Gan weithio ochr yn ochr â’r Uwch Dîm Rheoli, maent yn gosod cyfeiriad strategol, yn cefnogi ac yn datblygu ein pobl, yn meithrin perthnasoedd dylanwadol ar draws y sector gwirfoddol a maes haelioni, ac yn gweithio gyda rhwydwaith Sefydliadau Cymunedol y DU i gynyddu ein cyrhaeddiad a’n heffaith.

Andrea Powell

Cyfarwyddwr Rhaglenni (Dirprwy Prif Weithredwr)

Richard Williams

Prif Weithredwr

Haelioni

Gweithio’n agos gyda rhoddwyr, busnesau, cynghorwyr proffesiynol a chefnogwyr i droi haelioni yn newid parhaol. Drwy gymryd yr amser i ddeall nodau a gwerthoedd pob rhoddwr, mae’r tîm yn darparu cyngor ac arweiniad arbenigol, yn creu cyfleoedd rhoi ystyrlon ac yn meithrin perthnasoedd hirdymor. Maent hefyd yn creu cyfleoedd i roddwyr a busnesau gysylltu, dysgu a rhannu drwy ein rhwydweithiau a’n digwyddiadau.

Katy Hales

Cyfarwyddwr Haelioni

Rosie

Swyddog Haelioni

Grantiau

Sicrhau bod cyllid yn cyrraedd y cymunedau lle gall wneud y gwahaniaeth mwyaf. Mae’r tîm yn rheoli ein rhaglenni grantiau, yn cefnogi ein paneli gwirfoddol, yn asesu ceisiadau am grantiau, ac yn gweithio’n agos gyda derbynwyr grantiau i fonitro prosiectau a dangos y gwahaniaeth y mae’r cyllid yn ei wneud i gymunedau ledled Cymru.

Claire

Rheolwr Grantiau

Asha

Pennaeth Gweithrediadau Grantiau

Ceri

Swyddog Grantiau

Alice

Swyddog Grantiau

Rhiannon

Swyddog Monitro Grantiau

Harriet

Swyddog Grantiau

Cyfathrebu a Marchnata

Llunio sut mae Sefydliad Cymunedol Cymru yn cael ei weld, ei glywed a’i ddeall. Drwy gyfathrebu a marchnata strategol, mae’r tîm yn dod â’n gwaith, ein gwerthoedd a’n heffaith yn fyw, gan helpu i feithrin ymddiriedaeth, cryfhau ein henw da ac ysbrydoli mwy o bobl i gefnogi cymunedau ledled Cymru.

Eleri

Pennaeth Cyfathrebu a Marchnata

Kira

Cydlynydd Cyfathrebu a Marchnata

Cyllid

Darparu’r arbenigedd ariannol sy’n sail i’n gwaith ac yn helpu i sicrhau bod adnoddau’n cael eu rheoli’n effeithiol ac yn gyfrifol. Mae’r tîm yn cefnogi llywodraethu cadarn, atebolrwydd a chynaliadwyedd hirdymor, gan ein galluogi i wneud y mwyaf o werth ac effaith yr arian a ymddiriedir i ni.

Smitha

Pennaeth Cyllid

Carol

Cynorthwyydd Gweinyddu Cyllid