Ein hymddiriedolwyr ac aelodau pwyllgor
Mae Sefydliad Cymunedol Cymru yn cael ei arwain gan Fwrdd o Ymddiriedolwyr ac Aelodau Pwyllgor sy’n dod ag ystod eang o sgiliau, profiad a safbwyntiau i’n gwaith. Gyda’i gilydd, maent yn darparu arweinyddiaeth strategol, yn sicrhau llywodraethu da ac yn ein helpu i barhau i ganolbwyntio ar droi haelioni yn effaith i gymunedau ledled Cymru.
Gallwch ddargnafod mwy am ein hymddiriedolwyr ac aelodau pwyllgor isod. Gyda’i gilydd, maent yn helpu i sicrhau ein bod yn parhau’n sefydliad cryf, effeithiol ac atebol.
Rydym yn adolygu’r sgiliau a’r profiad a gynrychiolir ar ein Bwrdd a’n pwyllgorau yn rheolaidd ac, o bryd i’w gilydd, yn recriwtio ymddiriedolwyr newydd ac aelodau cyfetholedig ar bwyllgorau. P’un a oes gennych brofiad blaenorol o lywodraethu neu eich bod yn ystyried eich rôl lywodraethu gyntaf, rydym yn croesawu diddordeb gan bobl o bob cefndir.