Ymunwch â'r tîm

Yn Sefydliad Cymunedol Cymru, rydym yn creu daioni drwy haelioni ledled Cymru.

Rydyn ni’n bont gadarn rhwng pobl sy’n dymuno rhoi a’r cymunedau sy’n bwysig iddyn nhw. Mae ein gwaith yn adeiladu ar hanes hir o roi yng Nghymru i wneud yn siŵr bod haelioni’n arwain at gymorth ystyrlon a pharhaol.

Rydym yn sefydliad sy’n cael ei arwain gan werthoedd, ac mae’r gwerthoedd hynny’n llywio’r ffordd rydym yn gweithio bob dydd – o’r ffordd rydym yn cefnogi ein gilydd i’r ffordd rydym yn meithrin perthnasoedd â rhoddwyr, partneriaid a chymunedau ledled Cymru.

P’un a ydych yn ymuno â ni fel cydweithiwr neu’n gwirfoddoli eich amser, byddwch yn rhan o dîm bach, cefnogol sy’n poeni’n fawr am wneud gwahaniaeth.

Rydym yn cynnig amgylchedd gwaith hyblyg gyda ffocws cryf ar les, datblygiad a chydbwysedd.

Swydd ar gael: Swyddog Grantiau

Rydym yn recriwtio ar gyfer Swyddog Grantiau, fydd yn chwarae rôl bwysig drwy ein helpu i ddarparu cyllid sy’n creu newid cadarnhaol ledled Cymru. Byddwch yn cefnogi portffolio amrywiol o raglenni grant a meithrin cysylltiadau cryf â’r sefydliadau a’r cymunedau rydym yn gweithio gyda nhw. Dyddiad cau: 9am ar 1 Hydref 2026.

Darganfod mwy
Ymunwch â’r tîm

Cyfle gwirfoddoli: Ymddiriedolwr

Rydyn ni’n chwilio am unigolion brwdfrydig ac ymroddedig i ymuno â’n Bwrdd Ymddiriedolwyr a helpu i arwain gwaith Sefydliad Cymunedol Cymru. Mae hwn yn gyfle gwerth chweil i ddefnyddio eich sgiliau, eich profiad a’ch angerdd i gefnogi cymunedau lleol, mudiadau elusennol a phobl sy’n gwneud gwahaniaeth ledled y wlad. Dyddiad cau: dydd Llun 28 Medi 2026.

Darganfod mwy
Ymunwch â’r tîm

Beth i'w ddisgwyl wrth weithio gyda ni

Lles

Gweithio hyblyg a hybrid, cyfleoedd i ddysgu a datblygu, a dau ddiwrnod o wirfoddoli wedi' dalu bob blwyddyn.

Buddion

25 diwrnod o wyliau blynyddol â gwyliau banc, cau dros Nadolig a diwrnod i ffwrdd ar eich pen-blwydd, gwyliau gwasanaeth hir, cynllun beicio i’r gwaith, profion llygaid a chymorth drwy Health Assured.

Diogelwch

Pensiwn cystadleuol, adolygiad cyflog blynyddol, gwyliau teulu estynedig, a rhaglen cymorth i chi a’ch teulu.

Gwirfoddolwch

Rydym yn chwilio am aelodau newydd o’r panel gwirfoddoli!

Darllen mwy
Ymunwch â’r tîm