Fel rhan o lansiad ein brand newydd, rydym yn gwahodd artist neu ddarlunydd o Gymru i greu gwaith celf digidol gwreiddiol wedi’i ysbrydoli gan y themâu sydd wrth wraidd ein sefydliad a’n gweledigaeth ar gyfer y dyfodol.
Ym mis Hydref 2026, gwnaethom gyflwyno stori gliriach am bwy ydym ni, beth rydym yn ei wneud a’r rôl rydym yn ei chwarae yng Nghymru. Er bod ein hunaniaeth weledol wedi esblygu, mae ein pwrpas yn parhau: helpu pobl, teuluoedd, busnesau a sefydliadau i fuddsoddi yn y lleoedd a’r achosion sy’n bwysig iddynt, creu daioni drwy haelioni ledled Cymru.
I ddathlu ein brand newydd, rydym yn falch o gyhoeddi Comisiwn Creadigol gwerth £500, gan roi cyfle i bobl greadigol yng Nghymru ddehongli’r syniadau sydd wrth galon Sefydliad Cymunedol Cymru.
Y briff
Rydym yn chwilio am ddarlun neu waith celf digidol gwreiddiol wedi’i ysbrydoli gan un neu fwy o’r themâu canlynol:
- Creu daioni drwy haelioni
- Haelioni cymunedol
- Grym cymunedau ar lawr gwlad
- Buddsoddi yn y bobl, y lleoedd a’r achosion sy’n bwysig i ni
Dylai’r gwaith comisiwn adlewyrchu ysbryd Sefydliad Cymunedol Cymru a’n gweledigaeth o Gymru lle mae haelioni yn cryfhau cymunedau ac yn creu effaith barhaol.
Y comisiwn
Bydd yr artist llwyddiannus yn derbyn:
- Ffi comisiwn o £500
- Cyfle i weld eu gwaith yn cael ei ddefnyddio ar draws cyfathrebiadau Sefydliad Cymunedol Cymru
- Amlygrwydd drwy ein gwefan, cyfryngau cymdeithasol a chyfathrebiadau â rhanddeiliaid
- Ystyriaeth bosibl ar gyfer cyfleoedd creadigol yn y dyfodol, lle bo hynny’n briodol
Gellir defnyddio’r gwaith celf terfynol ar draws:
- Cyfryngau cymdeithasol
- Fel rhan o’n cyfathrebiadau Nadolig 2026
- Cyfathrebiadau i gefnogwyr
- Cyhoeddiadau digidol
- Adroddiadau a deunyddiau marchnata
- Gweithgareddau adrodd straeon brand yn y dyfodol
Bydd yr artist llwyddiannus yn gweithio’n agos gyda Sefydliad Cymunedol Cymru i ddatblygu’r gwaith celf terfynol. Rhennir cysyniad drafft yn ystod y broses er mwyn sicrhau bod y gwaith gorffenedig yn adlewyrchu gweledigaeth greadigol yr artist a themâu’r comisiwn.
Sut i wneud cais
Mae ceisiadau ar agor i artistiaid a darlunwyr sy’n byw yng Nghymru. Mae croeso i bobl ifanc greadigol o dan 18 oed wneud cais, ond bydd angen caniatâd rhiant neu warcheidwad os cânt eu dewis ar gyfer y comisiwn.
- Cyflwyniad byr amdanoch eich hun (uchafswm o 300 gair)
- Hyd at dri enghraifft o waith perthnasol
- Datganiad byr yn amlinellu sut y byddech yn mynd ati i gyflawni’r comisiwn ac ymateb i’r themâu
Nid oes angen i ymgeiswyr greu gwaith celf gorffenedig fel rhan o’r cais.
Dylid anfon ceisiadau at info@communityfoundationwales.org.uk erbyn dydd Gwener 13 Tachwedd 2026.
Bydd artist llwyddiannus yn cael ei ddewis gan banel sy’n cynnwys cynrychiolwyr o Sefydliad Cymunedol Cymru. Bydd ceisiadau’n cael eu hasesu ar sail creadigrwydd, ansawdd ac ymateb i’r briff.
Bydd yr unigolyn creadigol llwyddiannus yn cael gwybod yn ystod mis Tachwedd 2026. Gan y bydd y gwaith celf yn ffurfio rhan o’n cyfathrebiadau Nadolig, rhaid cyflwyno’r gwaith celf terfynol y cytunwyd arno erbyn dydd Gwener 4 Rhagfyr 2026 er mwyn rhoi digon o amser ar gyfer cynhyrchu a dosbarthu.
Hawlfraint a defnydd
Bydd yr artist llwyddiannus yn cadw hawlfraint y gwaith celf a gomisiynir.
Bydd Sefydliad Cymunedol Cymru yn derbyn trwydded barhaol, anghyfyngedig nad yw’n unigryw ac yn rhydd o freindaliadau i ddefnyddio ac addasu’r gwaith celf ar gyfer cyfathrebiadau print a digidol, gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol, cyhoeddiadau, deunyddiau marchnata a gweithgareddau adrodd straeon brand yn y dyfodol.
Gall yr artist barhau i arddangos y gwaith yn ei bortffolio a’i ddeunyddiau hyrwyddo.