Datganiad AI
Yn Sefydliad Cymunedol Cymru (CFW), rydym yn cydnabod y gall Deallusrwydd Artiffisial (AI) gynnig cyfleoedd sylweddol, o wella effeithlonrwydd sefydliadol i gefnogi cyfathrebu cliriach a mwy hygyrch. Rydym wedi ymrwymo i ddefnyddio technolegau AI mewn ffordd gyfrifol, foesegol a thryloyw, gan sicrhau bob amser mai anghenion a lleisiau ein cymunedau sy’n dod gyntaf.
Fel sefydliad sy’n cael ei arwain gan werthoedd ac sy’n gweithio gyda chymunedau ledled Cymru, credwn ei bod yn bwysig bod yn glir ynghylch sut rydym yn defnyddio technolegau newydd yn ein gwaith a sut rydym yn diogelu ymddiriedaeth, tegwch a barn ddynol.
Rydym hefyd yn cydnabod pwysigrwydd datblygu ein ffyrdd o weithio ac ymgysylltu ag offer newydd mewn ffordd gyfrifol, fel y gallwn barhau i wasanaethu cymunedau’n effeithiol mewn byd sy’n newid yn barhaus.
Beth yw AI?
Mae AI yn cyfeirio at systemau cyfrifiadurol sy’n gallu cyflawni tasgau sydd fel arfer yn gofyn am ddeallusrwydd dynol, megis deall iaith, dadansoddi data, adnabod patrymau a chynhyrchu cynnwys.
Sut rydym yn defnyddio AI
Mae ein defnydd o AI yn bennaf i gefnogi a chynorthwyo ein gwaith, yn hytrach nag at ddibenion gweithredol neu wneud penderfyniadau. Rydym yn defnyddio offer AI i’n helpu i weithio’n fwy effeithlon, gan gynnwys:
- Cymorth gweinyddol: Awtomeiddio tasgau arferol er mwyn rhyddhau amser staff ar gyfer gwaith ystyrlon gyda chymunedau
- Dadansoddi data: Nodi tueddiadau a mewnwelediadau i ddeall anghenion cymunedau yn well
- Creu cynnwys: Cefnogi’r gwaith o ddatblygu adroddiadau, deunyddiau cyfathrebu a chyflwyniadau
- Ymchwil: Gwella ein dealltwriaeth o’r materion sy’n effeithio ar gymunedau Cymru
Mae pob allbwn a gynhyrchir gyda chymorth AI yn cael ei adolygu gan berson cyn iddo gael ei rannu’n allanol neu ei ddefnyddio i lywio penderfyniadau. Mae staff sy’n defnyddio offer AI yn cael arweiniad ar sut i’w defnyddio’n briodol, ac mae allbynnau’n cael eu gwirio o ran cywirdeb, tôn a thuedd bosibl.
Pobl, nid algorithmau, sy’n gwneud pob penderfyniad ynghylch cyllid. Mae ein proses grantio yn cynnal dull personol sy’n seiliedig ar berthnasoedd ac sydd wedi bod wrth galon ein gwaith erioed.
Nid ydym yn dibynnu ar allbynnau AI fel ffynonellau gwybodaeth terfynol, ac rydym yn gwirio ffeithiau, ffigurau a chyfeiriadau cyn eu defnyddio.
AI mewn cyfathrebu ac ymgysylltu
Fel y nodwyd, mae’n bosibl y byddwn yn defnyddio offer AI i gefnogi ein gwaith cyfathrebu ac ymgysylltu, gan gynnwys:
- Drafftio neu fireinio cynnwys mewn iaith glir ar gyfer adroddiadau, gwefannau a dogfennau mewnol
- Gwella hygyrchedd, er enghraifft drwy symleiddio gwybodaeth gymhleth neu gefnogi fformatau amgen
- Cynorthwyo gyda chyfieithiadau, crynodebau neu is-deitlau, ochr yn ochr ag adolygiad gan berson
- Cefnogi’r gwaith o ddatblygu syniadau, strwythuro neu olygu cyflwyniadau ac ymgyrchoedd
Mae’r holl gynnwys cyfathrebu a ddatblygir gyda chymorth AI yn cael ei adolygu a’i gymeradwyo gan staff er mwyn sicrhau ei fod yn gywir, yn briodol ac yn gynhwysol, a’i fod yn adlewyrchu llais a gwerthoedd ein sefydliad.
Nid ydym yn defnyddio AI i gymryd lle profiad bywyd, llais cymunedau na barn broffesiynol wrth adrodd ein straeon. Nid ydym ychwaith yn defnyddio AI i greu nac efelychu delweddau o’r cymunedau na’r unigolion rydym yn gweithio gyda nhw.
Mae ein straeon, ein hastudiaethau achos a’n negeseuon cyhoeddus wedi’u seilio ar bobl go iawn, cymunedau go iawn ac effaith go iawn.
Yr hyn nad ydym yn defnyddio AI ar ei gyfer
Nid ydym yn defnyddio AI i:
- Wneud penderfyniadau terfynol ar geisiadau am grantiau neu ddyraniadau cyllid
- Cymryd lle barn ddynol mewn penderfyniadau sy’n effeithio ar bobl neu sefydliadau
- Prosesu eich data personol heb fesurau diogelu priodol a heb i chi wybod
- Benderfynu pwy sy’n derbyn cyllid na faint o gyllid y maent yn ei dderbyn
Risgiau a chyfrifoldebau
Rydym yn cymryd y risgiau sy’n gysylltiedig ag AI o ddifrif, gan gynnwys y posibilrwydd o anghywirdebau, effeithiau ar breifatrwydd data ac effaith amgylcheddol.
Rydym yn lleihau’r risgiau hyn drwy ganllawiau mewnol, defnydd cymesur o offer AI, adolygu allbynnau, a sicrhau mai dim ond pan fydd AI yn ychwanegu gwerth clir y caiff ei ddefnyddio. Rydym yn cynnal polisïau mewnol sy’n adlewyrchu safonau cyfreithiol cyfredol a disgwyliadau moesegol.
Fel y nodwyd, rydym hefyd yn ymwybodol o effaith amgylcheddol technolegau digidol ac yn ceisio defnyddio offer AI mewn ffordd gyfrifol ac effeithlon, gan osgoi defnydd diangen neu ormodol.
Pan fydd AI yn cefnogi ein gwaith cyfathrebu, rydym yn cymryd gofal i sicrhau ei fod yn adlewyrchu profiadau go iawn pobl a chymunedau mewn ffordd gywir a pharchus.
Ein hegwyddorion
Wrth ddefnyddio AI, rydym yn cael ein harwain gan yr egwyddorion craidd canlynol:
- Pobl yn gyntaf
Mae AI yn cefnogi ein gwaith ond nid yw byth yn cymryd lle’r perthnasoedd dynol, yr empathi a’r wybodaeth leol sy’n hanfodol i haelioni cymunedol effeithiol. Pobl, nid technoleg, sydd wrth galon popeth a wnawn.
Fel sefydliad sy’n cefnogi arferion creadigol, rydym hefyd yn ymwybodol na ddylid defnyddio AI mewn ffyrdd sy’n tanseilio creadigrwydd dynol, arferion artistig na mynegiant gwreiddiol.
- Tryloywder
Rydym yn agored ynghylch pryd a sut rydym yn defnyddio AI. Rydym yn cyfathrebu’n glir am ein dull o ddefnyddio AI a’r mathau o brosesau lle gall offer AI gael eu defnyddio i gefnogi ein gwaith.
- Tegwch a chydraddoldeb
Rydym yn gweithio’n rhagweithiol i sicrhau nad yw offer AI yn cyflwyno tuedd na gwahaniaethu. Rydym yn adolygu ein defnydd o AI yn rheolaidd i sicrhau ei fod yn hyrwyddo tegwch ac yn cefnogi pob cymuned yng Nghymru yn gyfartal.
- Diogelu data
Rydym yn cymryd eich preifatrwydd o ddifrif. Mae unrhyw ddefnydd o AI yn cydymffurfio’n llawn â deddfwriaeth diogelu data’r DU. Nid ydym yn rhannu eich gwybodaeth bersonol â systemau AI heb fesurau diogelu priodol, a dim ond data sy’n angenrheidiol ar gyfer ein gwaith rydym yn ei ddefnyddio.
- Goruchwyliaeth ddynol
Mae pob allbwn AI yn cael ei adolygu gan staff sydd wedi cael hyfforddiant priodol. Ni sy’n parhau i fod yn atebol am bob penderfyniad a phob darn o gynnwys, p’un a yw offer AI wedi cael eu defnyddio wrth eu paratoi ai peidio. Mae hyn yn cynnwys yr holl gyfathrebiadau allanol, cyhoeddiadau a chynnwys sydd ar gael i’r cyhoedd.
Ar gyfer ymgeiswyr am grantiau
Yng nghyd-destun ceisiadau am gyllid, mae Sefydliad Cymunedol Cymru yn annog ymgeiswyr i ddefnyddio offer AI fel cymorth i wella eglurder neu hygyrchedd, ond nid yn lle cynnwys dilys sydd wedi’i seilio ar wybodaeth a phrofiadau go iawn o’r gymuned ac arbenigedd y sefydliad.
Os ydych yn gwneud cais am gyllid gan Sefydliad Cymunedol Cymru:
- Pobl, nid algorithmau, sy’n gwneud pob penderfyniad ynghylch cyllid. Nid yw AI yn chwarae unrhyw ran mewn gwneud penderfyniadau ynghylch canlyniadau cyllid, a bydd eich cais bob amser yn cael ei ddarllen gan bobl.
- Gall AI ein helpu i brosesu data (er enghraifft, drwy nodi tueddiadau ar draws ceisiadau), ond pobl sy’n gwneud pob penderfyniad ynghylch cyllid.
- Mae eich gwybodaeth bersonol yn cael ei diogelu. Rydym yn trin eich data yn unol â deddfwriaeth diogelu data’r DU.
- Gallwch ofyn cwestiynau. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch ein defnydd o AI yn ein prosesau, cysylltwch â ni.
Defnyddio AI yn eich cais
Rydym yn deall bod llawer o sefydliadau bellach yn defnyddio offer AI i helpu gydag ysgrifennu a gwaith gweinyddol. Os byddwch yn dewis defnyddio AI wrth baratoi eich cais am gyllid:
- Chi sy’n parhau i fod yn gyfrifol am gywirdeb ac ansawdd eich cais.
- Dylid adolygu a phersonoli cynnwys a gynhyrchir gan AI er mwyn iddo adlewyrchu llais ac amgylchiadau gwirioneddol eich sefydliad.
- Byddwch yn onest ac yn gywir. Peidiwch â defnyddio AI i greu gwybodaeth ffug neu gamarweiniol.
- Rydym yn asesu eich sefydliad a’ch prosiect, nid eich arddull ysgrifennu, felly peidiwch â phoeni os nad ydych yn awdur proffesiynol.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan bob sefydliad, p’un a ydych yn defnyddio offer AI wrth eu paratoi ai peidio.
Ar gyfer rhoddwyr a phartneriaid
- Mae AI yn ein helpu i weithio’n fwy effeithlon, gan ein galluogi i neilltuo mwy o amser i feithrin perthnasoedd a chefnogi effaith gymunedol.
- Rydym yn defnyddio AI mewn ffyrdd sy’n cyd-fynd â’n cenhadaeth elusennol a’n gwerthoedd.
- Mae eich data a’ch gwybodaeth yn cael eu diogelu yn unol â’r holl ddeddfwriaeth berthnasol a’n safonau moesegol uchel ein hunain.
- Rydym yn cynnal y gwasanaeth personol a’r elfen ddynol sy’n diffinio ein dull o ymdrin â haelioni.
- Pan fydd AI yn cefnogi ein gwaith cyfathrebu, mae’n ein helpu i weithio’n fwy effeithlon, ond mae ein negeseuon bob amser yn adlewyrchu barn ddynol, atebolrwydd sefydliadol a’n hymrwymiad i leisiau dilys cymunedau.
Ein hymrwymiad parhaus
Mae ein dull wedi’i seilio ar degwch, atebolrwydd a chynhwysiant. Wrth i dechnolegau AI ddatblygu, byddwn yn parhau i fonitro, diweddaru a mireinio ein harferion er mwyn sicrhau ein bod yn manteisio ar arloesedd wrth ddiogelu ymddiriedaeth, ansawdd a gwerth i gymunedau.
Rydym yn adolygu ein defnydd o AI yn rheolaidd i sicrhau ei fod yn:
- Cefnogi ein cenhadaeth a’n gwerthoedd.
- Diogelu buddiannau’r holl randdeiliaid.
- Adlewyrchu arferion gorau a gofynion cyfreithiol.
- Cynnal yr ymddiriedaeth y mae cymunedau Cymru wedi’i rhoi ynom.
Mae’r cyfrifoldeb am oruchwylio ein defnydd o AI yn gorwedd gyda’r uwch dîm rheoli, gyda chefnogaeth polisïau mewnol a phrosesau adolygu.
Byddwn yn parhau i ddiweddaru’r datganiad hwn wrth i’n defnydd o AI ddatblygu, ac rydym yn croesawu adborth gan ein cymuned.
Diweddarwyd ddiwethaf: Awst 2026
Cwestiynau a phryderon
Rydym wedi ymrwymo i fod yn agored ynghylch ein defnydd o AI. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon, cysylltwch â ni:
E-bost: info@communityfoundationwales.org.uk
Ffôn: 02920 379580
Cyfeiriad: Llawr Cyntaf, Hastings House, Fitzalan Place, Caerdydd, CF24 0BL