Cronfeydd Sir y Fflint
I gyd, a Sir y Fflint
Mae’r rhaglen yma ar agor i geisiadau
Cliciwch y botwm isod i wylio ein fideos cam-wrth-gam, cael mynediad at ganllawiau, a darllen ein Cwestiynau Cyffredin i’ch helpu i wneud cais drwy ein Hwb Grantiau.
Mae Cronfa Gwaddol Cymunedol Sir y Fflint yn cefnogi:
- Prosiectau sy’n darparu datblygiad addysgol plant a phobl ifanc oed ysgol
- Prosiectau sy’n darparu datblygiad addysgol plant yn y blynyddoedd cynnar
- Prosiectau mewn ysgolion sy’n annog byw’n iach
Mae Cronfa Deddf Eglwysi Cymreig Sir y Fflint yn Gronfa Ymddiriedolaeth Elusennol sy’n cael ei gweinyddu gan y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru. Mae’r Gronfa Ymddiriedolaeth yn cael ei llywodraethu gan Ddeddf Eglwysi Cymru 1914.
Mae’r gronfa yn cefnogi:
- Prosiectau sy’n cyfrannu at adnewyddu a chynnal a chadw eglwysi, capeli a neuaddau cymunedol/pentref yn y sir.
- Prosiectau sy’n gweithio i fynd i’r afael ag anfantais er budd trigolion Sir y Fflint.
- Prosiectau sy’n darparu gweithgareddau cymdeithasol a hamdden i drigolion Sir y Fflint.
Pwy all wneud cais?
Gall sefydliadau wneud caid am grantiau hyd at £2,000 y flwyddyn am hyd at dair blynedd o Gronfa Gwaddol Gymunedol Sir y Fflint.
Gall eglwysi a sefydliadau wneud cais am grantiau hyd at £2,000 y flwyddyn am hyd at dair blynedd o Gronfa Deddf Eglwysi Cymru Sir y Fflint.
Sut i wneud cais?
Rhaid i ymgeiswyr lenwi ffurflen gais ar-lein y gellir ei gyrchu trwy ein gwefan.
Sylwer:
- Ni ddyfernir grantiau’n ôl-weithredol h.y. ar gyfer costau a dynnwyd cyn derbyn ein llythyr cynnig grant, as mae’r telerau ac amodau wedi’u llofnodi wedi’u dychwelyd.
- Nid yw grantiau ar gael i gefnogi codi arian ar gyfer grwpiau ac elusennau eraill.
- Rhaid gwario grantiau yn llawn o fewn blwyddyn ar ôl derbyn ein llythyr cynnig.
- Rhaid i’r cais ddangos angen clir am gymorth ariannol, caledi ariannol neu anghenion cymorth ychwanegol.
- Os ydych chi’n Gwmni Buddiannau Cymunedol sydd wedi’i gofrestru yn ystod y 18 mis diwethaf, nid ydych yn gymwys i wneud cais am y cyllid hwn. Os byddwch yn gwneud cais o fewn eich 18 mis cyntaf o fasnachu, bydd eich cais yn cael ei wrthod.
Ni all sefydliad neu berson gael mwy nag un grant o’r un Gronfa. Os oes gennych grant ar hyn o bryd ac eisiau gwneud cais eto am yr un gronfa, mae angen i ddyddiad dechrau eich cais newydd fod ar ôl dyddiad gorffen eich grant cyfredol.
Ymgeisiwch nawr
Meini Prawf Cronfeydd Sir y Fflint
Darganfyddwch fwyGwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y safon ddisgwyliedig cyn gwneud cais
Rydym yn argymell eich bod yn cofrestru i dderbyn ein Cylchlythyr Grantiau i gael y gwybodaeth am grantiau eraill sydd ar gael i chi.
Cliciwch yma

