Cyfeillion Sefydliad Cymunedol Cymru
Helpwch ni i adeiladu Cymru lle gall pob cymuned ffynnu
Fel Cyfaill o Sefydliad Cymunedol Cymru, rydych yn ymuno â rhwydwaith o bobl sy’n credu ym mhwysigrwydd rhoddi.
Byddwch yn gweld drosoch eich hun sut mae cymunedau ledled Cymru yn wynebu heriau gwirioneddol, ac yn dod yn rhan o greu atebion parhaol.
Rydych hefyd yn buddsoddi ynom ni – gan gryfhau ein gwaith fel y gallwn gefnogi hyd yn oed mwy o gymunedau ar hyd a lled Cymru.
Mae eich aelodaeth yn helpu i dalu ein costau rhedeg y sefydliad, gan ein galluogi i ddod o hyd i’r elusennau a’r grwpiau cymunedol sy’n gwneud y gwahaniaeth mwyaf ym mhob cwr o Gymru.
Dod yn Gyfaill Corfforaethol
Cofrestrwch nawrPam dod yn Gyfaill?
Mae eich aelodaeth flynyddol (£100 i unigolion, £500 i sefydliadau) yn ein helpu ni i barhau â’n gwaith. Fel Cyfaill, byddwch yn:
- Cefnogi ein gwaith – Mae eich cyfraniad yn ein helpu i gyrraedd y sefydliadau ar lawr gwlad sy’n gallu cyflawni newid gwirioneddol
- Dod yn nes at yr effaith – Cael blaenoriaeth i wahoddiadau i’n digwyddiadau ac ymweld â phrosiectau rydym wedi’u cefnogi i weld y gwahaniaeth mae ein cyllid yn ei wneud
- Ymuno â’n cymuned – Cysylltu ag eraill sy’n rhannu eich angerdd dros Gymru, a chael eich cydnabod am eich cefnogaeth ar ein gwefan a’n sianeli cyfryngau cymdeithasol

Cyfarfod ein Cyfeillion
Darllenwch fwy am yr unigolion a’r sefydliadau sy’n cefnogi gwaith Sefydliad Cymunedol Cymru.
Darllen mwy
