Adeiladu cysylltiadau, rhannu gwybodaeth a chreu cyfleoedd
Spotlight yw ein menter rwydweithio a dysgu, gan ddod â menywod ynghyd o’r sectorau busnes, cynghori proffesiynol ac elusennol.
Drwy raglen amrywiol o ddigwyddiadau rhwydweithio, siaradwyr gwadd a chyfleoedd datblygiad proffesiynol, mae Spotlight yn creu lle i feithrin perthnasoedd ystyrlon, cyfnewid syniadau a dysgu oddi wrth ein gilydd. Mae’r pynciau’n amrywio o fusnes ac arweinyddiaeth i lesiant, ymarfer proffesiynol a haelioni, gan adlewyrchu diddordebau a phrofiadau amrywiol ein rhwydwaith.
P’un a ydych yn awyddus i ehangu eich rhwydwaith proffesiynol, cael mewnwelediadau newydd neu gysylltu â menywod o’r un anian, mae Spotlight yn cynnig amgylchedd croesawgar i rannu gwybodaeth, archwilio safbwyntiau newydd a datblygu cysylltiadau gwerthfawr.
Fel rhan o Sefydliad Cymunedol Cymru, mae Spotlight hefyd yn cynnig cyfleoedd i ddysgu mwy am haelioni a rhoi elusennol, gan helpu aelodau ein rhwydwaith i ddeall yn well sut y gallant gefnogi cleientiaid, busnesau ac unigolion i wireddu eu huchelgeisiau elusennol.
Pam mynychu?
- Ehangu eich rhwydwaith proffesiynol
- Cysylltu â menywod o amrywiaeth o sectorau a chefndiroedd
- Dysgu gan siaradwyr arbenigol a chyfranwyr gwadd
- Cael mynediad at gyfleoedd rhwydweithio a datblygiad proffesiynol
- Rhannu gwybodaeth, syniadau a phrofiadauArchwilio haelioni a rhoi elusennol yng Nghymru
Digwyddiadau i ddod
Rhwydweithio Spotlight
Dydd Iau 22 Hydref 2026
12pm – 1:30pm
NatWest Accelerator Hub, 1 Kingsway, Caerdydd
Ymunwch â ni am sesiwn rwydweithio hamddenol dros ginio, wedi’i chynllunio i ddod â phobl ynghyd, sbarduno sgyrsiau newydd a chreu cysylltiadau gwerthfawr.
Archebwch eich lle am ddim drwy Eventbrite.
Cysylltwch â Katy
Cysylltwch â Katy os oes gennych unrhyw gwestiynau am haelioni neu Spotlight!