Cronfa Annette Bryn Parri
“Cerddor o’r galon”
Roedd Annette Bryn Parri yn gerddor o fri, a chafodd effaith ar fywydau llawer o bobl.
Ganed yn y gymuned Gymraeg leol yng Neiniolen, Gwynedd, a dechreuodd ei thaith gerddorol wrth y piano fel plentyn ac aeth i’r Royal Northern College of Music.
Daeth hi’n gyfeilydd a chyfarwyddydd cerddorol uchaf ei pharch, gan berfformio gyda rhai o leisiau mwyaf y genedl, gan gynnwys Bryn Terfel a Rebecca Evans, ac yn cyfrannu at waith Opera Genedlaethol Cymru.
Roedd Annette yr un mor ymroddedig i’w chymuned. Rhoddodd ei hamser yn hael i gorau, achosion elusennol, ac i fentora cerddorion ifanc. Roedd hi’n gynnes, llawn hiwmor, a llawn bywyd, a credai mewn rhannu cerddoriaeth yn eang a’i gwneud hi’n hygyrch i bawb.
Mae Cronfa Annette Bryn Parri wedi’i sefydlu gan ei theulu ac mae’n cael ei rheoli gan Sefydliad Cymunedol Cymru.

Am y gronfa
Mae’r gronfa yn dathlu bywyd a gwerthoedd Annette drwy gefnogi cerddorion ifanc uchelgeisiol ledled Cymru, gwneud hi’n haws i bobl ifanc dderbyn cymorth, yn enwedig rhai na fydd yn derbyn y cyfleodd o’r fath, a drwy annog datblygiad cerddoriaeth a diwylliant Cymru.
Bydd grantiau o’r gronfa yn helpu gyda gwersi cerddorol, offer, a chyfleoedd hyfforddi, gan roi cyfle i gerddorion ifanc ddatblygu a ffynnu.
Roedd Annette yn credu’n gryf fod gallu cerddorol yn gallu trawsnewid bywydau. Mae’r gronfa hon yn parhau â’i gwaith drwy rymuso pobl ifanc i ddilyn eu dawn a chyfrannu at dreftadaeth cerddoriaeth gyfoethog Cymru.
Gallwch gyfrannu at y gronfa drwy glicio ‘rhoi nawr’ uchod.
Neges gan deulu Annette

“Mae’r gronfa hon yn ffordd i ni anrhydeddu bywyd ac angerddau Annette – dynes a roddodd bopeth i gerddoriaeth, ei chymuned, a’r bobl y credai ynddynt. Trwy’r etifeddiaeth hon, rydyn ni’n gobeithio rhoi’r un anogaeth a chyfle i eraill ag a roddodd hi mor rhydd. Diolch i chi am ystyried cefnogi’r gronfa hon. Mae pob cyfraniad, bach neu mawr, yn helpu i ni barhau i ddatblygu gweledigaeth Annette – grymuso cerddorion ifanc, cyfoethogi diwylliant Cymru, a chadw ei ysbryd yn fyw trwy’r gerddoriaeth yr oedd hi’n ei charu. Diolch o galon.”
– Teulu Annette