Cronfa Ôl-osod ar gyfer y Dyfodol Cymdeithas Adeiladu’r Principality

Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Caerdydd, Caerffili, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Ceredigion, Conwy, Dinas Caerdydd, Gwynedd, I gyd, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Powys, Rhondda Cynon Taf, Sir Ddinbych, Sir Fynwy, Sir Gar, Sir Penfro, Sir y Fflint, Torfaen, Wrecsam, a Ynys Môn

Mae’r rhaglen yma ar gau i geisiadau

Bydd y gronfa hon yn agor ddydd Llun 1 Medi am 12pm (hanner dydd) a bydd yn cau ar ddydd Llun 6 Hydref am 12pm (hanner dydd) (yn amodol ar unrhyw newidiadau). O 4 o Awst, byddwch yn gallu trefnu galwad gyda Swyddog Grantiau, ac archebu lle ar un o'n gweithdai Cwrdd â'r Ariannwr. Cofrestrwch i'n cylchlythyr Grantiau i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Cofrestrwch in Cylchlythyr Grantiau i glywed am gyfleoedd cyllido yn y dyfodol.

Cronfa Cymru gyfan yw Cronfa Ôl-osod ar gyfer y Dyfodol Cymdeithas Adeiladu’r Principality a sefydlwyd mewn partneriaeth â Chymdeithas Adeiladu’r Principality gyda’r nod o wella’r amgylchedd yng Nghymru.

Bydd y gronfa hon yn cefnogi sefydliadau ledled Cymru i wella eu heffeithlonrwydd ynni drwy ôl-ffitio adeiladau neu drwy brynu offer fydd yn gwneud adeiladau mynediad cymunedol yn fwy effeithlon i’r amgylchedd.

Byddwn yn blaenoriaethu sefydliadau a phrosiectau sy’n cynyddu hygyrchedd i’r rhai sy’n cael eu tanwasanaethu neu’n agored i niwed. Mae hyn yn cynnwys prosiectau sy’n cefnogi unigolion o gefndiroedd nodwedd gwarchodedig 2010 Deddf Cydraddoldeb ac unigolion o’r cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Byddem yn disgwyl gweld arolwg ynni sy’n dangos bod yr adeilad yn addas i’w uwchraddio ac yn debygol o weld buddion arbed ynni yn ogystal â chael effaith amgylcheddol gadarnhaol oherwydd gosod yr uwchraddiad hwn.

Mae’n ofynnol i bob ymgeisydd gwblhau arolwg effeithlonrwydd ynni, wedi ei gyflawni gan sefydliad allanol ag enw da, sy’n dangos pa mor addas yw’r adeilad ar gyfer unrhyw waith arfaethedig a dangos unrhyw botensial ar gyfer arbedion ynni. Sylwer: nid yw Tystysgrif EPC yn arolwg effeithlonrwydd ynni.

Enghreifftiau o welliannau amgylcheddol y byddwn yn eu hystyried:

  • paneli solar neu pympiau gwres
  • inswleiddio
  • goleuadau ynni effeithlon
  • storio batri

Grantiau ar gael

Grantiau mawr o hyd at £25,000 am flwyddyn.

Byddem yn disgwyl i geisiadau allu dangos sut y byddai’r prosiect yn effeithio ar yr amgylchedd a lle bo hynny’n bosibl, unrhyw arbedion ynni blynyddol disgwyliedig a fyddai’n dod yn sgil y rhandaliad.

Pwy sy’n gallu ymgeisio?

Ni fyddwn yn ystyried ceisiadau gan sefydliadau sydd ag incwm o dros £500,000 oni bai bod modd gwneud achos untro eithriadol. E.e. Mae grant Cyfalaf wedi mynd dros y lefel incwm am 1 flwyddyn yn unig.

Byddem yn annog ac yn croesawu sgwrs cyn gwneud cais.

Ardal ddaearyddol a gyllidir: Cymru a changhennau’r Principality ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Os ydych chi’n sefydliad sydd wedi’i leoli yng Nghaer, Croesoswallt, Henffordd neu’r Amwythig, trefnwch alwad gyda Swyddog Grantiau, fel y gallwn benderfynu os yw eich lleoliad yn eich gwneud yn gymwys i dderbyn cyllid.

 

  • Grwpiau Cyfansoddol
  • Elusennau Cofrestredig a Sefydliadau Corfforedig Elusennol
  • Cwmnïau Cyfyngedig drwy Warant
  • Cwmnïau Buddiannau Cymunedol
  • Mentrau Cymdeithasol

Sut i wneud cais?

Rhaid i ymgeiswyr lenwi ffurflen gais ar-lein y gellir ei chyrchu trwy ein gwefan.

Sylwer:

 

  • Trwy gydol mis Ionawr 2026 mae ymrwymiad i weithio gyda Chymdeithas Adeiladu’r Principality a Sefydliad Cymunedol Cymru i gynhyrchu marchnata a chyfathrebu sy’n dathlu’r Sefydliadau/Grwpiau a ddyfarnwyd.
  • Ni ddyfernir grantiau’n ôl-weithredol, h.y. am gostau cyn derbyn ein llythyr cynnig grant, ac mae’r telerau a’r amodau llofnodedig wedi cael ei dychwelwyd.
  • Nid yw grantiau ar gael i gefnogi codi arian ar gyfer grwpiau ac elusennau eraill.
  • Rhaid gwario’r flwyddyn gyntaf o grant o fewn blwyddyn o dderbyn ein llythyr cynnig.
  • Rhaid i’r cais ddangos angen clir am gymorth ariannol, caledi ariannol neu anghenion cymorth ychwanegol.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y safon ddisgwyliedig cyn gwneud cais

Dyma’r safonau gofynnol mae’n rhaid i sefydliad eu cyfarfod er mwyn bod yn gymwys i gael arian gan Sefydliad Cymunedol Cymru.

Safonau Gofynnol
An icon of a clipboard with ticks.

Cysylltwch â ni

Gallwch gysylltu â ni ar 02920 379 580 neu anfonwch e-bost i grants@cfiw.org.uk i gael rhagor o wybodaeth.






    Gwnewch yn siŵr eich bod yn gymwys

    Darllenwch y testun canlynol i sicrhau eich bod yn gymwys cyn dechrau'ch cais:

    Parhewch

    Grants

    Gweld y cyfan

    Cronfa Waddol Cynnal

    Gogledd Cymru, Gwynedd, I gyd a Ynys Môn

    Cronfa Gwyddoniaeth Gogledd Ddwyrain Cymru – Unigolion

    Conwy, Gogledd Cymru, I gyd

    Cronfa Waddol Cynnal – Unigolion

    Gogledd Cymru, Gwynedd, I gyd a Ynys Môn

    Cronfeydd Sir y Fflint – Unigolion

    Gogledd Cymru, I gyd a Sir y Fflint