Cronfa Waddol Gymunedol Sir Ddinbych – Unigolion

I gyd, a Sir Ddinbych

Mae’r rhaglen yma ar agor i geisiadau

Mae ceisiadau bellach ar agor i unigolion. Mae're gronfa hon yn cau ddydd Llun 7 mis Medi 2026 am 12pm, hanner dydd (yn amodol ar newid).

Cofrestrwch in Cylchlythyr Grantiau i glywed am gyfleoedd cyllido yn y dyfodol.

Nod Cronfa Gwaddol Cymunedol Sir Ddinbych yw ariannu mentrau addysgol gan gynnwys:

  • Prosiectau cyrhaeddiad addysgol gan gynnwys dysgu gydol oes
  • Prosiectau cynhwysiant addysg gyda chefnogaeth i fyfyrwyr unigol talentog ar ffurf ysgoloriaethau, cymorth teithio, chwaraeon, gwobrau am gyrhaeddiad a deunyddiau addysgol.

Grantiau ar gael

Gall unigolion wneud cais am grantiau o hyd at £500.

Pwy all wneud cais?

Myfyrwyr hyd at a chan gynnwys 25 oed sydd ar hyn o bryd yn byw yn llawn amser yn ardal Awdurdod Lleol Sir Ddinbych, ar yr amod nad yw’r mentrau yn dod o fewn darpariaeth statudol.

Rhoddir blaenoriaeth i ymgeiswyr sy’n gallu dangos yn union sut y byddant yn cyflawni amcanion a blaenoriaethau’r Gronfa, ac nad ydynt wedi derbyn cefnogaeth gan y Gronfa hon o’r blaen.

Sut i wneud cais?

Rhaid i ymgeiswyr lenwi ffurflen gais ar-lein y gellir ei chyrchu trwy ein gwefan.

Sylwer:

  • Ni ddyfernir grantiau’n ôl-weithredol, h.y. am gostau a dynnir cyn derbyn ein llythyr cynnig grant, a dychwelwyd y telerau a’r amodau llofnodedig.
  • Rhaid gwario’r grantiau’n llawn o fewn blwyddyn o dderbyn ein llythyr cynnig.
  • Rhaid i’r cais ddangos angen clir am gymorth ariannol, caledi ariannol neu anghenion cymorth ychwanegol.

Ni all sefydliad neu berson gael mwy nag un grant o’r un gronfa ariannu. Os oes gennych grant ar hyn o bryd ac eisiau gwneud cais eto am yr un gronfa, mae angen i ddyddiad dechrau eich cais newydd fod ar ôl dyddiad gorffen eich grant presennol.

Ymgeisiwch nawr

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gymwys

Darllenwch y testun canlynol i sicrhau eich bod yn gymwys cyn dechrau'ch cais:

Parhewch

Grants

Gweld y cyfan

Cronfa Gwaddol Dr Dewi Davies – Unigolion

Ceredigion a Sir Gar

Cronfa Gymorth Penarlâg a’r Cylch – Unigolion

Gogledd Cymru, I gyd a Sir y Fflint

Cronfa Addysg Plwyf Rudbaxton – Unigolion

Canolbarth a Gorllewin Cymru, I gyd a Sir Penfro

Sefydliad Addysgol John Vaughan – Unigolion

I gyd a Sir Gar