Sefydliad Addysgol John Vaughan – Unigolion

I gyd, a Sir Gar

Mae’r rhaglen yma ar agor i geisiadau

Mae'r gronfa hon bellach ar agor. Bydd y gronfa hon yn cau ddydd Llun 1 Mawrth 2027 12pm - hanner dydd. Byddwn hefyd yn argymell eich bod yn cofrestru i'n Cylchlythyr Grantiau i gael y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw ddatblygiadau.

Cliciwch y botwm isod i wylio ein fideos cam-wrth-gam, cael mynediad at ganllawiau, a darllen ein Cwestiynau Cyffredin i’ch helpu i wneud cais drwy ein Hwb Grantiau.

 

Cafodd Sefydliad Addysgol John Vaughan ei sefydlu ar gyfer trigolion plwyf Llangynog, Sir Gaerfyrddin er mwyn gwneud y canlynol:

  • annog, cefnogi a hyrwyddo cyrhaeddiad addysgol anstatudol a dysgu gydol oes, gan gynnwys y blynyddoedd cynnar
  • annog, cefnogi a hyrwyddo llesiant ysbrydol a gwella bywydau pobl nad oes ganddynt lawer o adnoddau

Y grantiau sydd ar gael

  • Grantiau o hyd at £500 ar gyfer unigolion

Pwy all wneud cais?

    • Rhieni a/neu ofalwyr plant a phobl ifanc hyd at a chan gynnwys 18 oed neu unigolion hŷn sy’n un o drigolion llawn amser plwyf Llangynog yn Sir Gaerfyrddin, i’w galluogi i ddatblygu eu haddysg a’u dysgu, ar yr amod nad yw’r fenter yn dod o dan ddarpariaeth statudol.

    Rhoddir blaenoriaeth i ymgeiswyr sy’n dangos sut y byddant yn bodloni amcanion y Gronfa yn y ffordd orau, a phwy sy’n dangos yr angen ariannol a chymdeithasol y bydd y grant yn mynd i’r afael ag ef yn y ffordd orau.

Sut i wneud cais?

Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ac yn deall meini prawf y gronfa cyn cwblhau eich cais.

Ni all sefydliad neu berson gael mwy nag un grant o’r un gronfa ariannu. Os oes gennych grant ar hyn o bryd ac eisiau gwneud cais eto am yr un gronfa, mae angen i ddyddiad dechrau eich cais newydd fod ar ôl dyddiad gorffen eich grant presennol.

 

Ymgeisiwch nawr
Sefydliad Addysgol John Vaughan – Unigolion

Cefnogi gwaith caled seren polo dŵr

Darllen mwy

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gymwys

Darllenwch y testun canlynol i sicrhau eich bod yn gymwys cyn dechrau'ch cais:

Parhewch

Grants

Gweld y cyfan

Cronfa Gwaddol Dr Dewi Davies – Unigolion

Ceredigion a Sir Gar

Cronfa Gymorth Penarlâg a’r Cylch – Unigolion

Gogledd Cymru, I gyd a Sir y Fflint

Cronfa Addysg Plwyf Rudbaxton – Unigolion

Canolbarth a Gorllewin Cymru, I gyd a Sir Penfro

Cronfa Waddol Cynnal

Gogledd Cymru, Gwynedd, I gyd a Ynys Môn