Pam gwirfoddoli gyda ni?
Mae ein gwirfoddolwyr yn ein helpu i gyrraedd mwy o bobl, gan ddod ag ystod o syniadau ffres i helpu cymunedau Cymru ffynnu.
Rydym ni’n gwybod o’n profiad ein hunain mor bwerus yw gwirfoddoli. Mae dros 42,000 o grwpiau cymunedol ac elusennau yng Nghymru yn gweithio i wella a datblygu eu cymunedau, gan ddefnyddio eu sgiliau i ateb anghenion lleol.
Mae’r grwpiau a’r elusennau hyn yn deall yr heriau sy’n wynebu pobl yn eu cymuned ac yn gwybod sut orau i fynd i’r afael â’r rhwystrau hyn. Yn aml iawn, mae’r gwaith hollbwysig hwn yn cael ei wneud gyda chyllideb gyfyng iawn neu, yn fwy cyffredin, ar sail wirfoddol – felly rydym ni’n gweld bob dydd sut mae gwirfoddolwyr yn rhoi o’u hamser, eu sgiliau a’u hegni i wneud gwahaniaeth go iawn yn eu cymunedau.
Dyma fwy am ein gwirfoddolwyr a sut gallwch chi gymryd rhan.
Cyfarfod â’n gwirfoddolwyr
Sut i wirfoddoli gyda ni
Pan fyddwch chi’n gwirfoddoli gyda Sefydliad Cymunedol Cymru, dydych chi ddim ond yn gwneud gwahaniaeth i eraill, rydych chi hefyd yn elwa. Mae gwirfoddoli’n gyfle i ddatblygu sgiliau, meithrin hyder, a chysylltu â phobl. P’un a’i os ydych chi’n chwilio am brofiad, eisiau rhoi rhywbeth yn ôl, neu eisiau bod yn rhan o rywbeth ystyrlon, mae sawl ffordd i ymuno â ni.
Dyma ein swyddi gwirfoddoli cyfredol
Aelod Panel Gwirfoddol
Fel Aelod o’r Panel Gwirfoddol, byddwch yn chwarae rhan hanfodol yn ein proses grantiau. Darperir hyfforddiant a chefnogaeth lawn, a byddwch yn gweithio ochr yn ochr ag aelodau ymroddedig eraill y panel a staff Sefydliad Cymunedol Cymru.
Cliciwch yma i ddarllen proffil y rôl
Profwr System Gwirfoddol
Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu profi ein Porth Grantïon CRM newydd, lle mae ein grantïon yn gallu ymgeisio am gyllid. Bydd eich adborth yn hanfodol wrth helpu ni i lunio platfform sy’n groesawgar, yn effeithlon ac yn hygyrch i bob defnyddiwr.
Cliciwch yma i ddarllen proffil y rôl
Gwirfoddolwr Swyddfa
Rydym yn chwilio am Wirfoddolwr i helpu yn ein swyddfa yng Nghaerdydd ar ddydd Mawrth. Gall tasgau gynnwys cymorth gweinyddol cyffredinol, cyfarch ymwelwyr, a chynorthwyo gyda phrosiectau bach.
Cliciwch yma i ddarllen proffil y rôl
Os nad oes yna rol sy’n addas ar hyn o bryd, byddem dal yn falch iawn o glywed gennych. Cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at info@communityfoundationwales.org.uk