Swyddog Dyngarwch
Dyddiad cau: 18fed Mai 2026
Oriau: Llawn-amser, gyda hyblygrwydd i drafod patrymau gwaith gwahanol ar gyfer yr ymgeisydd cywir. Bydd rhywfaint o waith gyda’r nos, ar benwythnosau a bydd ambell i noson i ffwrdd yn ofynnol.
Cyflog: £31,900 cyfwerth ag amser llawn
Atebol i: Cyfarwyddwr Dyngarwch
Lleoliad: Gweithio hybrid – gweithio gartref ac yn swyddfa Caerdydd (o leiaf un diwrnod yr wythnos, gyda dydd Mawrth/Mercher yn ddiwrnodau angor pan gynhelir cyfarfodydd tîm).
Contract: Parhaol
Rôl newydd yw hon sy’n canolbwyntio ar gynhyrchu incwm ac adeiladu perthnasoedd, gan gydweithio’n agos gyda’r Cyfarwyddwr Dyngarwch i dyfu portffolio o roddwyr a chynhaliwyr cronfeydd yn Sefydliad Cymunedol Cymru.
Byddwch yn meithrin cysylltiadau parhaol â phobl, teuluoedd a sefydliadau, gan eu helpu i ddarparu cefnogaeth elusennol a chreu newid cadarnhaol mewn cymunedau ar draws Cymru.
Rydym yn chwilio am unigolyn sydd â gwybodaeth dda am faterion cymdeithasol ac anghenion lleol yng Nghymru, sy’n gallu ddefnyddio’r wybodaeth honno i greu rhwydweithiau, chwilio am gyfleoedd a darparu cefnogaeth bwrpasol i roddwyr newydd a phresennol. Bydd y swydd hon yn ganolog i sicrhau cyllid newydd a chryfhau perthnasoedd hirdymor o ansawdd uchel.
Mae buddion yn cynnwys trefniadau gweithio hyblyg, cyfleoedd datblygiad proffesiynol, gweithgareddau llesiant misol, cynllun pensiwn cystadleuol a rhaglen cymorth gweithwyr sy’n ymestyn i deuluoedd.
Gallwch ddarganfod mwy amdanyn ni a’r rôl yn ein pecyn swydd ni isod.
I gael sgwrs anffurfiol am y swydd, e-bostiwch Katy@communityfoundationwales.org.uk