SWEF - grantiau menter a busnes
Crewyd cronfa SWEF i gefnogi entrepreneuriaid ifanc (18-30 oed) i fuddsoddi yn eu menter fusnes a/neu eu cefnogi i fynd â’u busnes i’r lefel nesaf.
Blaenoriaeth y gronfa hon yw cefnogi’r rhai sydd â llai o fantais yn eu bywyd cynnar, sy’n wynebu rhwystrau i fuddsoddi yn eu busnes ac na allant gynhyrchu cyllid o ffynonellau eraill.
Mae’r gronfa hon bellach ar gau.
Bydd yn ailagor yn ddiweddarach eleni – tanysgrifiwch i’n Cylchlythyr Grantiau i dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf: Cylchlythyr Grantiau – Community Foundation Wales

Proses ymgeisio:
Mae proses ymgeisio dau gam ar gyfer SWEF.
- Mynegiant o ddiddordeb (EOI) sy’n gofyn am fanylion sylfaenol amdanoch chi eich hun a’ch busnes. Cyflwynir hwn drwy Hwb Grantiau Sefydliad Cymunedol Cymru, ac fe’i defnyddir i asesu eich cymhwysedd.
- Ar ôl i ni dderbyn eich EOI ac asesu eich cymhwysedd, byddwn yn anfon dolen atoch i wneud cais am grant SWEF yn uniongyrchol drwy’r porth grantiau SWEF.
Grantiau sydd ar gael
Mae dau opsiwn ar gyfer y grantiau SWEF sydd ar gael: Menter Newydd a Busnes, yn dibynnu ar y cam y mae eich busnes ynddo.
- Rhaid i’r busnes fod yr unig ffocws gwaith yr ymgeisydd, neu bod cynllun i’w rhoi ar waith yn fuan.
- Bydd angen i ymgeiswyr esbonio sut y bydd grant yn trawsnewid y busnes ac yn ei datblygu i’r cam nesaf.
- Rhaid i ymgeiswyr ddangos angen ariannol am y grant ac ei bod yn amhosib cael mynediad at arian mewn mannau eraill (cynilion, incwm ac ati)
Mae cronfa SWEF wedi’i hanelu at unigolion 18-30 oed sydd:
- Yn byw yng Nghymru ac yn meddu ar fusnes sy’n gweithredu yng Nghymru,
- Wedi bod yn gweithredu eu busnes am ddim mwy na thair blynedd NEU yn y cam datblygu / peilot, wedi cynnal ymchwil i’r farchnad, yn gallu dangos gwelededd i’r busnes, ac yn disgwyl dechrau masnachu yn fuan,
- Wedi’u cofrestru fel Unig Fasnachwr neu Gwmni Cyfyngedig. Os yw wedi’i gofrestru fel Partneriaeth, mae’n rhaid i’r partner arweiniol fod yn 18-30 oed,
- Yn berchen ar 100% o’r busnes neu’n gyfranddaliwr mwyafrif,
- Yn gweithio neu gynllunio i weithio’n llawn amser ar y busnes,
- Yn berchen â chyfrif banc busnes neu fod yn y broses o sefydlu cyfrif banc busnes,
- Yn gallu dangos tystiolaeth o gamau sylweddol a gymerwyd i ddechrau datblygu eich busnes – ni fydd ‘syniadau busnes’ yn cael eu hystyried
- Heb gynilion a/neu fynediad at arian trwy deulu, ffrindiau neu gyflogaeth arall sy’n talu’n dda
Cymhwysedd a manylion am yr hyn y gellir defnyddio'r gronfa ar gyfer
Mae cyllid ar gael i gefnogi ystod eang o gostau busnes, ar yr amod y gall ymgeiswyr ddangos sut y bydd y gwariant yn cefnogi twf eu busnes.
Gall busnesau sydd wedi bod yn gweithredu (masnachu llai na thair blynedd) ac sy’n cynhyrchu incwm o £500 y mis o leiaf, wneud cais am grantiau hyd at £2,000. Mae busnesau newydd (cyfnod cyn y cyfnod refeniw, neu o fewn mis neu ddau i ddechrau masnachu a gyda refeniw misol o lai na £500) ond yn gymwys i gael symiau grant llai, hyd at £500.
Ar ôl chwe mis, bydd granteion cychwynnol llwyddiannus yn cael cynnig y cyfle i ailymgeisio am arian ychwanegol hyd at £2000 os yw’r busnes wedi symud ymlaen yn ddigonol.
Rhaid i fusnes fod yn unig ffocws gwaith ymgeisydd neu fod â chynllun clir ar sut y bydd y busnes yn unig ffocws yn y misoedd nesaf.
Gellir darllen y manylion cymhwysedd llawn a’r rhestr o’r hyn y gellir defnyddio’r gronfa ar wefan SWEF:
Meini Prawf Cymhwysedd SWEF | Pwy all wneud cais am grant
Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n darllen hwn yn ofalus cyn mynegi diddordeb.