Rosie

Swyddog Haelioni

Rosie

Fy nghefndir

Ymunais â Sefydliad Cymunedol Cymru ym mis Awst 2026. Dechreuais fy ngyrfa drwy gynllun Interniaeth Celfyddydau & Busnes Cymru yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, gan weithio yn y tîm Codi Arian. Roeddwn yn canolbwyntio’n bennaf ar ein cynlluniau aelodaeth, rhoddion unigol, rhaglenni rhoddwyr mawr, partneriaid corfforaethol a phob agwedd o godi arian.

Yr hyn rwy'n ei wneud

Fel Swyddog Haelioni, rwy’n arwain ac yn datblygu ein rhaglen Cyfeillion. Rwyf hefyd yn canolbwyntio ar ein cyfathrebu â chefnogwyr, meithrin perthnasoedd corfforaethol newydd, gweithio gyda chynghorwyr proffesiynol, a chydweithio â’r tîm cyfan i sicrhau ein bod yn cysylltu rhoddwyr â straeon y prosiectau maent wedi’u hariannu.

Holwch fi ynghylch

Dod yn Gyfaill i Sefydliad Cymunedol Cymru, partneriaethau a chymorth corfforaethol, buddsoddiadau, rhoddion a sefydlu cronfa.

Pam rwy'n caru Cymru

Rwy’n caru pobl Cymru – maen nhw’n gyfeillgar, yn meddwl am eu cymunedau, yn garedig ac yn ofalgar. Y bwyd – er fy mod i’n dewis picau ar y maen gyda siocled yn hytrach na’r rhai traddodiadol! Yr iaith – dysgais Gymraeg yn yr ysgol ac yn ddiweddar, dwi wedi dechrau dysgu eto.

Team members

Gweld y cyfan
Kira

Kira

Cydlynydd Cyfathrebu a Marchnata

Richard Williams

Richard Williams

Prif Weithredwr

Andrea Powell

Andrea Powell

Cyfarwyddwr Rhaglenni (Dirprwy Prif Weithredwr)

Katy Hales

Katy Hales

Cyfarwyddwr Haelioni