Roedd 95% o ddynion yn teimlo’n fwy cyfforddus yn cysylltu ag eraill ar ôl cylchoedd sgwrsio cymunedol ym Mhowys
Mae grant Cronfa i Gymru wedi helpu Powys Men's Circle i ddod â sgyrsiau hanfodol ac ymdeimlad o berthyn i gymunedau ledled canolbarth Cymru
“Fe wnaeth y gofod croesawgar fy ngalluogi i fod yn fi fy hun, boed yn teimlo’n drist, yn flin neu’n hapus. Yn yr wythnosau ers y digwyddiad, dwi wedi sylwi fy mod i’n mwy ‘fi fy hun’ – dwi’n gallu mynegi pwy ydw i ac os dwi’n derbyn fy hun, dyna beth sy’n bwysig.”
Gall sgwrs syml newid y ffordd y mae rhywun yn teimlo amdanynt eu hunain, eu perthnasoedd a’u lle yn eu cymuned.
Gyda chefnogaeth grant o £1,970 gan Gronfa i Gymru, a ariannwyd gan chwaraewyr Postcode Lottery, cynhaliodd Powys Men’s Circle gyfres o sesiynau sgwrsio i ddynion ledled canolbarth Cymru, gan greu mannau croesawgar lle gall dynion gysylltu, rhannu profiadau a meithrin perthnasoedd cefnogol.
Cyrhaeddodd y prosiect gymunedau yn Llandrindod, Llanafan, y Drenewydd a Machynlleth, gan gynnal deg sesiwn sgwrsio mewn partneriaeth â grwpiau a sefydliadau lleol.
Yn hytrach na disgwyl i gyfranogwyr deithio i ymuno â’r sesiynau, daeth Powys Men’s Circle â’r sesiynau i gymunedau yn uniongyrchol, gan weithio ochr yn ochr â grwpiau sefydledig gan gynnwys Newtown Men’s Shed, Platform 1, a chymdeithas dai gydweithredol ym Machynlleth.
Creu lle ar gyfer cysylltiadau gwirioneddol
Roedd y sesiynau yn annog dynion i symud oddi wrth ddulliau traddodiadol o ddatrys problemau, gan ganolbwyntio ar wrando a myfyrio yn lle, oedd yn eu galluogi i ddeall ei gilydd yn well.
Cafodd y cyfranogwyr eu gwahodd i rannu eu profiadau mewn amgylchedd di-farn lle gallent siarad yn agored, cael eu clywed a sylweddoli y gallai eraill fod yn wynebu heriau tebyg.
Effaith fesuradwy
Mesurwyd effaith y prosiect drwy holiaduron llesiant cyn ac ar ôl y sesiynau.
Roedd y canlyniadau’n hynod gadarnhaol, gyda 95% o’r cyfranogwyr yn dweud eu bod yn teimlo’n fwy cyfforddus yn cysylltu â dynion eraill ar ôl mynychu’r sesiynau.
Roedd yn alwg o’r adborth, pae mor bwysig yw hi i greu mannau lle gall cyfranogwyr archwilio eu hemosiynau, gwrando ar ei gilydd a meithrin ymddiriedaeth heb ofni cael eu barnu.
Y tu hwnt i lesiant unigolion, helpodd y prosiect i gryfhau perthnasoedd cymunedol hefyd. Drwy ddod â’r sesiynau sgwrsio i grwpiau oedd eisoes yn bodoli, roedd cyfranogwyr yn gallu dyfnhau eu cysylltiadau â’i gilydd a datblygu ymdeimlad cryfach o berthyn.
Dysgu ar gyfer y dyfodol
Atgyfnerthodd y prosiect yr hyn y mae Powys Men’s Circle eisoes wedi’i arsylwi drwy ei gwaith ehangach: nid oes angen ymyriadau cymhleth i greu newid ystyrlon.
Yn hytrach, gall creu amgylchedd croesawgar, darparu hwyluso medrus a chynnig cyfleoedd ar gyfer sgyrsiau gonest gael effaith ddofn ar lesiant meddyliol a chysylltiadau cymdeithasol.
Wrth fyfyrio ar y prosiect, nododd y tîm gyfleoedd i gryfhau sesiynau ymhellach drwy annog hyd yn oed mwy o bobl i fod yn agored o’r cychwyn cyntaf a datblygu dulliau mwy cyson o gasglu adborth hirdymor.
Wrth edrych tua’r dyfodol, mae Powys Men’s Circle yn gobeithio adeiladu ar y perthnasoedd a ffurfiwyd drwy’r prosiect a chefnogi mwy o grwpiau cymunedol i fabwysiadu’r dull Sesiynau Sgwrsio fel rhan o’u gweithgareddau rheolaidd.
Eu huchelgais hirdymor yw helpu grwpiau lleol i ddatblygu’r hyder a’r sgiliau sydd eu hangen i gynnal y sgyrsiau hyn yn annibynnol, gan sicrhau bod mwy o ddynion yn cael cyfleoedd i gysylltu â chefnogi ei gilydd yn eu cymunedau.
Diolch i chwaraewyr Postcode Lottery a rhoddion i Gronfa i Gymru, mae Powys Men’s Circle yn helpu i greu cysylltiadau cryfach, gwell dealltwriaeth a rhwydweithiau cymorth parhaol i ddynion ledled canolbarth Cymru.
Stories
Cadw’r drws ar agor i bobl ifanc yn Native Naext Academy
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae grant o £2,000 gan Cronfa i Gymru, a ariannwyd gan Postcode Lottery, wedi helpu Native Radio i dalu costau rhedeg ei stiwdio gymunedol, gan sicrhau bod y gofod yn parhau ar agor ac ar gael i bobl ifanc drwy gydol y flwyddyn.
Creu cyfleoedd drwy’r theatr: sut mae Cronfa i Gymru yn cefnogi Papertrail
Diolch i grant o £2,000 gan Cronfa i Gymru, a ariannwyd gan chwaraewyr Postcode Lottery, mae'r sefydliad wedi parhau â'i waith o greu cyfleoedd i artistiaid Byddar, anabl a'r rhai sydd heb gael cynrychiolaeth ddigonol, gan helpu i wneud theatr yn fwy hygyrch ledled Cymru.
Buddsoddi mewn pobl, sgiliau a threftadaeth: cefnogi’r genhedlaeth nesaf o grefftwyr Cymreig
Cafodd tri unigolyn o Gymru bwrsariaethau i ddatblygu sgiliau arbenigol mewn gwaith gof, melino hetiau, a gwaith coed, sy’n helpu i ddiogelu traddodiadau crefft, gan hefyd agor drysau newydd i bobl sy’n wynebu rhwystrau sylweddol i hyfforddiant a chyflogaeth.