Richard Williams

Prif Weithredwr

Richard Williams

Fy nghefndir

Dwi’n dod yn wreiddiol o ardal Caernarfon yng Ngwynedd. Dechreuais fy ngyrfa fel newyddiadurwr papurau newydd rhanbarthol, cyn cael fy mhenodi’n olygydd ar y Wrexham Evening Leader ac yn ddiweddarach ar y South Wales Echo. Cyn ymuno â Sefydliad Cymunedol Cymru, roeddwn yn Gyfarwyddwr Cymru ar gyfer Action on Hearing Loss (RNID), gyda chyfrifoldeb dros wasanaethau, codi arian ac ymgyrchoedd y sefydliad yng Nghymru. Ymunais â Sefydliad Cymunedol Cymru yn 2017. Dwi hefyd wedi gwasanaethu fel Ymddiriedolwr i nifer o sefydliadau, gan gynnwys Bevan Foundation, CGGC, Hafan Cymru ac, ar hyn o bryd, Sefydliad Pêl-droed Cymru.

Yr hyn rwy'n ei wneud

Fi yw Prif Weithredwr y sefydliad. Dwi’n falch o arwain tîm gwych sy’n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl a chymunedau ledled Cymru. Mae gennym Fwrdd Ymddiriedolwyr cryf, ac rydyn ni’n gweithio gyda’n gilydd i dyfu’r sefydliad, gan annog mwy o bobl i roi er mwyn i ni allu cefnogi mwy o grwpiau cymunedol ledled Cymru.

Fy rôl yw sicrhau ein bod yn cyflawni ein strategaeth a’n cynllun busnes, yn ymateb i anghenion pobl yng Nghymru, ac yn datblygu ein gallu i ddarparu cyllid cynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Y rhan orau o’r swydd, heb os, yw clywed am y gwahaniaeth mae ein gwaith yn ei wneud a’r llwyddiannau rydym yn helpu i’w creu.

Mae angen Sefydliad Cymunedol cryf ar Gymru, ac rydyn ni’n gweithio’n galed gyda phartneriaid ledled y wlad i gynyddu’r lefel o gyllid sydd ar gael i gymunedau.

Holwch fi ynghylch...

Sefydliad Cymunedol Cymru ac unrhyw beth sy’n helpu i adeiladu cymunedau cryfach yng Nghymru!

Hoffwn glywed eich syniadau am gefnogi grwpiau cymunedol, gwneud gwahaniaeth yn lleol, a sut y gallwn weithio gyda’n gilydd i wireddu hynny.

Pam rwy'n caru Cymru

Dwi wrth fy modd yn gweld Cymru’n llwyddo, boed hynny ym maes chwaraeon, diwylliant, busnes neu unrhyw faes arall. Mae gennym dreftadaeth gyfoethog, iaith unigryw, cerddoriaeth wych, hanes arbennig a phobl gynnes a hael. Dyna sy’n gwneud Cymru’n lle mor arbennig.

Ac os oes rhaid dewis rhai hoff leoedd? Edrych dros Y Foryd yng Nghaernarfon, noson gêm o dan oleuadau llachar Cae Ras Wrecsam, ac unrhyw draeth ar arfordir gorllewinol Cymru ar ddiwrnod braf.

Team members

Gweld y cyfan
Ami

Ami

Swyddog Grantiau

Rosie

Rosie

Swyddog Haelioni

Kira

Kira

Cydlynydd Cyfathrebu a Marchnata

Rhiannon

Rhiannon

Swyddog Grantiau