Gweithredu’r foesol
Mae gweithredu’n foesol ac yn agored yn bwysig i ni. Mae ein Polisi Gweithredu’n Foesol yn nodi’r egwyddorion sy’n llywio’r ffordd rydym yn gweithio o ddydd i ddydd, o’r penderfyniadau a wnawn i’r perthnasoedd rydym yn eu meithrin gyda phartneriaid, cefnogwyr, cyflenwyr a sefydliadau ledled Cymru.
Mae’r polisi’n adlewyrchu ein hymrwymiad i weithredu’n gyfrifol, i aros yn annibynnol ac i weithio mewn ffyrdd sy’n cryfhau cymunedau yng Nghymru.
Ochr yn ochr â hyn, mae ein Strategaeth Buddsoddi’n Foesol yn llywio’r ffordd y caiff ein cronfeydd eu buddsoddi. Er nad yw hon wedi’i chyhoeddi ar ein gwefan, rydym yn hapus i rannu rhagor o wybodaeth – anfonwch e-bost at info@communityfoundationwales.org.uk.
