Yn Sefydliad Cymunedol Cymru, rydyn ni’n gweithio gyda rhoddwyr i gefnogi’r cymunedau lleol sy’n bwysig iddyn nhw, gan wneud yn siŵr bod haelioni’n creu’r daioni fwyaf posib.
Creu daioni drwy haelioni i gymunedau ar lawr gwlad
Diddordeb mewn rhoi?
P’un a ydych chi’n rhoi fel unigolyn, teulu, busnes neu ymddiriedolaeth elusennol, neu’n cynghori cleientiaid ynglŷn â haelioni, gallwn eich helpu i gysylltu â’r cymunedau a’r achosion sydd bwysicaf i chi.
Chwilio am gyllid?
Rydyn ni’n helpu sefydliadau ar lawr gwlad, unigolion ac entrepreneuriaid ifanc ledled Cymru i gael gafael ar y cyllid sydd ei angen arnyn nhw i greu cyfleoedd, ymateb i heriau lleol a chryfhau eu cymunedau.
1999
Wedi ein sefydlu yn 1999 ac wedi galluogi haelioni am ddegawdau
£50M+
Wedi buddsoddi dros £50 miliwn mewn cymunedau yng Nghymru
145+
Wedi sefydlu dros 145 o gronfeydd elusennol, a mwy ar y gweill
£1M+
Gweithio gyda miloedd o roddwyr, gan gefnogi rhoddion o £5 i £1M+
22
Yn ariannu prosiectau ar draws 22 ardal awdurdod lleol yng Nghymru
60+
Dros 60 o gronfeydd gweithredol yn helpu rhoddwyr i roi’n ystyrlon