Ymunwch â'n tîm
Cydlynydd Cyfathrebu a Marchnata
Oriau: Rhan-amser – 25 awr yr wythnos
Contract: Parhaol
Cyflog: £25,000 pro rata
Dyddiad cau: 12pm ar dydd Llun 19 Mai 2025
Cyfweliadau: Dydd Mercher 4 Mehefin 2025
Cliciwch ar y ddolen i ddarganfod mwy am y rôl.
Cydlynydd Cyfathrebu a MarchnataGweithio yn Sefydliad Cymunedol Cymru
Yma yn Sefydliad Cymunedol Cymru, credwn y gall prosiectau llawr gwlad newid bywydau.
Rydym yn gweithio gyda grwpiau cymunedol ac elusennau ledled Cymru, gan gymryd amser i ddeall yr hyn y maent yn ceisio ei gyflawni a’u cefnogi i wneud hynny trwy ddyfarnu grantiau ar ran ein rhoddwyr.
Rydym yn sefydliad sy’n seiliedig ar werthoedd. Mae ein gwerthoedd wedi deillio o’n tîm, yn siapio sut rydyn ni’n gweithio ac wedi eu gwreiddio ym mhopeth rydyn ni’n ei wneud.
- Rydym yn bartneriaid da
- Rydyn ni’n gofalu am y bobl rydyn ni’n gweithio gyda nhw
- Rydym yn gwneud gwahaniaeth
Yn gyfnewid am eich angerdd a’ch ymrwymiad, gallwn gynnig amgylchedd gwaith a fydd yn eich helpu i dyfu a datblygu yn ogystal â sicrhau cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith.
Rydyn ni’n cynnig nifer eang o fanteision, gan gynnwys:
- Pecyn hael o 25 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn (pro-rata), ynghyd ag 8 gŵyl y banc
- Swyddfa yn cau rhwng y Nadolig a Blwyddyn Newydd
- Un diwrnod ychwanegol o wyliau ar gyfer eich pen-blwydd (pro-rata)
- Pensiwn cyfrannol 5%
- Sesiynau lles misol
- Cynllun beicio i’r gwaith
- Dau ddiwrnod gwirfoddoli â thâl (pro-rata)
- Marwolaeth mewn gwasanaeth
- Ystod eang o fanteision iechyd preifat
