Modelau rôl pwerus yn ysbrydoli dyfodol newydd

Cronfa Gymunedol Uchel Siryf Gwent

     

Gyda chefnogaeth gan Gronfa Gymunedol Uchel Siryf Gwent, cynhaliodd Rewild Play 10 sesiwn “Gallwch chi fod…” i bobl ifanc 11–18 oed sy’n wynebu problemau hunan-barch isel, pryder ac ymddieithrio. Drwy gwrdd â modelau rôl go iawn a oedd wedi goresgyn heriau, ysbrydolwyd y cyfranogwyr i weld posibiliadau newydd ar gyfer eu bywydau eu hunain.

Mae llawer o’r bobl ifanc y mae Rewild Play yn eu cefnogi yn niwroamrywiol, mae ganddynt anghenion dysgu ychwanegol, maen nhw wedi cael eu gwahardd o’r ysgol neu wedi bod yn rhan o droseddu. Mae bywyd bob dydd yn aml yn cael ei lunio gan iselder a phryder, ac mae’r gred na fyddant byth yn cyflawni llawer yn rhan fawr o’u bywyd bob dydd.

Dros gyfnod o flwyddyn, cynhaliodd Rewild 10 gweithdy ysbrydoledig, pob un dan arweiniad oedolyn gwahanol a oedd wedi goresgyn heriau personol i lwyddo yn eu gyrfaoedd creadigol neu broffesiynol. O gogyddion i fabolgampwyr, sglefrwyr i beirianwyr stiwdio, rhoddodd yr arweinwyr sesiwn hyn gyfle i bobl ifanc roi cynnig ar weithgareddau newydd a gweld llwyddiant yn uniongyrchol, wrth rannu eu profiad fel pobl a oedd unwaith yn teimlo’r un peth â nhw.

“Er bod rhai pobl ifanc wedi rhoi’r gorau iddi, fe wnaeth y rhai a gymerodd ran gysylltu â’u modelau rôl, gan glywed straeon ysbrydoledig a chymryd rhan mewn gweithgareddau cadarnhaol. Helpodd y sesiynau i’w llywio o ymddygiad gwrthgymdeithasol ac yn ôl tuag at addysg, gan hyrwyddo dinasyddiaeth dda.”

Stories

Buddsoddi mewn pobl, sgiliau a threftadaeth: cefnogi’r genhedlaeth nesaf o grefftwyr Cymreig

Buddsoddi mewn pobl, sgiliau a threftadaeth: cefnogi’r genhedlaeth nesaf o grefftwyr Cymreig

Cafodd tri unigolyn o Gymru bwrsariaethau i ddatblygu sgiliau arbenigol mewn gwaith gof, melino hetiau, a gwaith coed, sy’n helpu i ddiogelu traddodiadau crefft, gan hefyd agor drysau newydd i bobl sy’n wynebu rhwystrau sylweddol i hyfforddiant a chyflogaeth.

“Gall y pethau bach wneud byd o wahaniaeth” – Cefnogi cymunedau drwy’r argyfwng costau byw

“Gall y pethau bach wneud byd o wahaniaeth” – Cefnogi cymunedau drwy’r argyfwng costau byw

Banc Bwyd Rhydaman

Dathlu Mis Pride a phwysigrwydd cefnogaeth gymunedol yng Nghymru

Dathlu Mis Pride a phwysigrwydd cefnogaeth gymunedol yng Nghymru

Rrydym yn falch o gefnogi nifer o sefydliadau sy’n gweithio drwy gydol y flwyddyn i wella bywydau pobl LGBTQ+ ledled Cymru.

Sut y gall grantiau bach greu cyfleoedd sy’n newid bywydau

Sut y gall grantiau bach greu cyfleoedd sy’n newid bywydau

Pan fydd pobl yn meddwl am ddyngarwch, yn aml y rhoddion mawr a’r ymgyrchoedd codi arian sylweddol sy’n dod i’r meddwl. Ond gall symiau cymharol fach o gyllid hefyd gael effaith drawsnewidiol ar ddyfodol rhywun.