“Gall y pethau bach wneud byd o wahaniaeth” – Cefnogi cymunedau drwy’r argyfwng costau byw

Banc Bwyd Rhydaman

“Gall y pethau bach wneud byd o wahaniaeth” – Cefnogi cymunedau drwy’r argyfwng costau byw

Wrth i gymunedau barhau i deimlo effaith barhaus yr argyfwng costau byw, mae sefydliadau lleol yn darparu mwy na chymorth ymarferol – maent yn cynnig caredigrwydd a lloches. 

Fel rhan o’n hymdrechion i gefnogi cymunedau drwy’r argyfwng hwn, fe wnaethom ddarparu grantiau gyda Newsquest Media Group drwy ein Cronfa Costau Byw, i grwpiau cymunedol a mentrau sy’n helpu i leihau tlodi ledled Cymru. 

Un o dderbynwyr y cyllid hwn oedd Banc Bwyd Rhydaman, a dderbyniodd £15,000 dros gyfnod o dair blynedd i gefnogi darpariaeth canolfan gymorth a banc bwyd. 

Yn ystod y cyfnod ariannu, agorodd y ganolfan gymorth ei drysau i aelodau’r cyhoedd bob dydd Llun a dydd Gwener, gan ddod yn rywle ddibynadwy i bobl leol sy’n wynebu anawsterau ariannol. 

Mwy na banc bwyd yn unig

Er bod mynediad at fwyd brys yn rhan hanfodol o’u gwasanaeth, mae’r gefnogaeth maent yn ei chynnig yn ymestyn ymhell y tu hwnt i ddarparu bwyd. 

Yn ystod y cyfnod ariannu, mae’r ganolfan gymorth wedi helpu mwy na 1,000 o bobl i gael mynediad at gefnogaeth, drwy gyfeiriadau at sefydliadau eraill, cyngor, darpariaeth bwyd a chymorth ymarferol gyda llenwi ffurflenni. 

Mae hyn wedi arwain at fwy na £840,000 mewn enillion ariannol i bobl yn y gymuned, drwy wneud y mwyaf o’u hincwm a sicrhau mynediad at gefnogaeth ychwanegol, sydd wedi helpu i leihau pwysau ariannol. 

Arwain gyda charedigrwydd

Un o agweddau mwyaf pwerus y sefydliad yw ei hymrwymiad parhaus i ddatblygu, ac un o’r ffyrdd y maent wedi gwneud hyn yw drwy greu amgylchedd croesawgar a chefnogol. 

Wrth gyrraedd, mae ymwelwyr yn cael eu cyfarch gan aelodau staff ymroddedig, gyda chroeso cynnes a diod boeth ar gael. 

I rai, gallai’r hyn ymddangos yn  rhywbeth bach. Ond i rywun sy’n profi caledi ariannol, unigrwydd neu ansicrwydd, gall y pethau bach hyn wneud byd o wahaniaeth. 

Mae adborth gan ymwelwyr yn adlewyrchu hyn hefyd. Mae pobl sydd wedi defnyddio’r gwasanaeth wedi disgrifio’r tîm fel pobl “gwych”, “ystyriol” ac “amyneddgar”, gan dynnu sylw at yr effaith gadarnhaol y mae’r sefydliad wedi’i chael ar eu bywydau. 

Rhan hanfodol o’r gymuned

Dros amser, mae’r ganolfan gymorth a’r banc bwyd wedi datblygu i fod yn llawer mwy na lloches i gael cymorth brys. Maent wedi dod yn ganolfan gymunedol ddibynadwy lle mae pobl yn gwybod y bydd croeso cynnes, gyda rhywun ar gael i wrando ac i ddarparu cefnogaeth. 

Dyma pa mor bwysig yw sefydliadau sy’n cael eu harwain gan y gymuned. Maent yn deall anghenion pobl leol ac yn gallu darparu cymorth ymarferol, ochr yn ochr â chysylltiad personol, sydd mor bwysig. 

Diolch

Hoffem ddiolch i bawb sy’n rhan o Banc Bwyd Rhydaman am y gwaith anhygoel rydych yn parhau i’w wneud. 

Mae eich ymroddiad, eich cyfeillgarwch a’ch ymrwymiad wedi helpu cannoedd o bobl i gael mynediad at gefnogaeth, gwella eu hamgylchiadau ariannol a theimlo’n llai unig yn ystod cyfnodau heriol. 

Diolch yn fawr am bopeth rydych yn ei wneud dros eich cymuned.

Stories

Weithiau Gall y Grantiau Llai Gael yr Effaith Fwyaf

Weithiau Gall y Grantiau Llai Gael yr Effaith Fwyaf

Pan fydd pobl yn meddwl am roi i elusen, mae’n hawdd dychmygu bod angen symiau sylweddol o arian er mwyn creu newid ystyrlon. Ac wrth gwrs, mae hyn yn hollbwysig. Ond weithiau, mae’r gwahaniaethau mwyaf yn dechrau gyda’r buddsoddiad lleiaf.

Buddsoddi mewn pobl, sgiliau a threftadaeth: cefnogi’r genhedlaeth nesaf o grefftwyr Cymreig

Buddsoddi mewn pobl, sgiliau a threftadaeth: cefnogi’r genhedlaeth nesaf o grefftwyr Cymreig

Cafodd tri unigolyn o Gymru bwrsariaethau i ddatblygu sgiliau arbenigol mewn gwaith gof, melino hetiau, a gwaith coed, sy’n helpu i ddiogelu traddodiadau crefft, gan hefyd agor drysau newydd i bobl sy’n wynebu rhwystrau sylweddol i hyfforddiant a chyflogaeth.

Dathlu Mis Pride a phwysigrwydd cefnogaeth gymunedol yng Nghymru

Dathlu Mis Pride a phwysigrwydd cefnogaeth gymunedol yng Nghymru

Rrydym yn falch o gefnogi nifer o sefydliadau sy’n gweithio drwy gydol y flwyddyn i wella bywydau pobl LGBTQ+ ledled Cymru.

Sut y gall grantiau bach greu cyfleoedd sy’n newid bywydau

Sut y gall grantiau bach greu cyfleoedd sy’n newid bywydau

Pan fydd pobl yn meddwl am ddyngarwch, yn aml y rhoddion mawr a’r ymgyrchoedd codi arian sylweddol sy’n dod i’r meddwl. Ond gall symiau cymharol fach o gyllid hefyd gael effaith drawsnewidiol ar ddyfodol rhywun.