Cefnogi pobl ifanc i fynegi eu hunain trwy gerddoriaeth

Cronfeydd Sir y Fflint

“Ges i wybod na allwn i fyth chwarae gitâr na bod mewn band, ond hey… fi yw’r chwaraewr bas yn y band a hyd yn oed wedi ysgrifennu’r llinell bas ar gyfer ein cân ‘Bob methu cael swydd’. Rydw i eisiau dangos i’r byd fy mod i’n chwaraewr bas da. Does dim ots os yw pobl yn ceisio eich rhoi chi lawr, mae’n rhaid i chi fynd allan a dangos eich bod YN gallu ei wneud!”

Mae Celfyddydau Cymunedol Emerge yn darparu prosiectau cerddoriaeth a chelfyddydau perfformio yn y gymuned ac ar-lein ar draws Sir y Fflint a Wrecsam. Maent yn cefnogi pobl ifanc ac oedolion sy’n profi anableddau dysgu a/neu broblemau iechyd meddwl i ddysgu sgiliau newydd, mynegi eu hunain a thyfu eu talent.

Cawsant grant aml-flwyddyn gan Gronfeydd Sir y Fflint i dalu am ran o’r gost o logi technegydd sain i gefnogi eu band Sound Express. Mae gan eu haelodau i gyd anabledd dysgu. Mae’r band yn ysgrifennu ac yn recordio eu cerddoriaeth eu hunain ac yn cwrdd yn wythnosol i ymarfer, ysgrifennu a recordio cerddoriaeth a pherfformio ar-lein ac yn y gymuned leol ac ehangach.

Mae un o’u gwirfoddolwyr, Cal, wedi bod gyda’r grŵp yn gwella ei sgiliau sain a cherddoriaeth am dair blynedd. Roedd mewn perygl o ynysu cymdeithasol a diweithdra hirdymor oherwydd problemau iechyd meddwl ac anawsterau cyfathrebu cymdeithasol ac fe’i cyflogwyd am ddiwrnod yr wythnos i weithio gyda’r band i recordio eu cerddoriaeth a darparu cymorth technegol i’r band mewn digwyddiadau. Mae’r cyllid wedi helpu i ddarparu rhywfaint o ddiogelwch i Cal sydd wedi mireinio ei sgiliau ac wedi magu hyder.

Dywedodd Jack, sy’n gerddor gwirfoddol:

“Ni allaf golli dydd Gwener. Gan fy mod o gwmpas fy ffrindiau newydd, mae’n teimlo’n dda i fod yn helpu yn y gymuned.”

Dywedodd Cal, cynorthwy-ydd y gweithdy:

“Mae’n dda dysgu sgiliau newydd, gallaf sefyll i fyny a dweud fy mod i’n eithaf da am hynny!”

 

 

 

 

 

Stories

Pam mae dyngarwch lleol yng Nghymru yn creu effaith barhaol

Pam mae dyngarwch lleol yng Nghymru yn creu effaith barhaol

I’r rhai sydd eisiau cefnogi cymunedau yng Nghymru, mae rhoi’n lleol yn cynnig ffordd bwerus o wneud gwahaniaeth gwirioneddol lle mae’r angen fwyaf.

Sut mae cyllid partneriaeth yn cefnogi cymunedau yng nghanolbarth Cymru

Sut mae cyllid partneriaeth yn cefnogi cymunedau yng nghanolbarth Cymru

Mae stori Shakespeare Link yn cynnig enghraifft ggwych o sut y gall cydweithio rhwng cyllidwyr, sefydliadau cymunedol a phartneriaid lleol greu effaith ystyrlon a pharhaol.

Ymweld â Silkfutures: creadigrwydd, hyder a chymuned ar waith

Ymweld â Silkfutures: creadigrwydd, hyder a chymuned ar waith

Cronfa i Gymru

O Dde Cymru i Nashville

O Dde Cymru i Nashville

Cronfa Ddyngarol Cymru yn Llundain