Help llaw i 400 o fabolgampwyr

Cronfa Waddol Gymunedol Sir Ddinbych

Help llaw i 400 o fabolgampwyr

“Mae llawer o’r rhieni yn y gymuned yn aros am goffi a byrbryd gyda’u plant ar ôl y sesiynau ac maent wedi nodi pa mor hyfryd ydyw bod cyfleuster lleol ar gael lle y gall eu plant gael ymarfer corff tra eu bod nhw hefyd yn elwa ohono.”

Mae Clwb Gymnasteg Rhuthun a Dinbych yn cynnig darpariaeth eang o gymnasteg i ardal Dinbych, Rhuthun a’r cymunedau cyfagos, gan weithio gyda mwy na 400 o gymnastwyr. Dyfarnwyd grant o £1,000 i’r clwb i brynu cyfarpar er mwyn gallu cynnal sesiynau gymnasteg i rieni a babanod a sesiynau i blant cyn-ysgol hefyd.

Mae’r grant wedi cyfrannu at waith Clwb Gymnasteg Rhuthun a Dinbych i wireddu ei weledigaeth, sef agor cyfleuster gymnasteg newydd yn Ninbych. Mae’r ddau floc a’r grisiau, a brynwyd gyda’r arian, wedi cael eu defnyddio bob dydd ers i’r ganolfan agor ym mis Medi.

Cynhelir sesiynau i fabanod/plant cyn-ysgol ddwywaith yr wythnos, lle mae rhieni a neiniau a theidiau yn cyfarfod i gymdeithasu tra bod eu plant yn dysgu drwy ‘chwarae’ gymnasteg.

Cynhelir y sesiynau hyn yn ddwyieithog, a gwelwyd datblygiad anferth yn sgiliau echddygol bras, llythrennedd a rhifedd y plant drwy ganu, dilyn cyfarwyddiadau a gofyn cwestiynau perthnasol.

Maent hefyd wedi gallu agor canolfan ar gyfer gymnasteg i’r anabl ac wedi helpu plant ac oedolion ifanc lleol sydd ag anableddau ysgafn i anableddau difrifol i ddefnyddio’r amgylchedd arbenigol hwn, ei fwynhau ac elwa ohono.

Stories

Roedd 95% o ddynion yn teimlo’n fwy cyfforddus yn cysylltu ag eraill ar ôl cylchoedd sgwrsio cymunedol ym Mhowys

Roedd 95% o ddynion yn teimlo’n fwy cyfforddus yn cysylltu ag eraill ar ôl cylchoedd sgwrsio cymunedol ym Mhowys

Mae grant Cronfa i Gymru wedi helpu Powys Men's Circle i ddod â sgyrsiau hanfodol ac ymdeimlad o berthyn i gymunedau ledled canolbarth Cymru

Cadw’r drws ar agor i bobl ifanc yn Native Naext Academy

Cadw’r drws ar agor i bobl ifanc yn Native Naext Academy

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae grant o £2,000 gan Cronfa i Gymru, a ariannwyd gan Postcode Lottery, wedi helpu Native Radio i dalu costau rhedeg ei stiwdio gymunedol, gan sicrhau bod y gofod yn parhau ar agor ac ar gael i bobl ifanc drwy gydol y flwyddyn.

Creu cyfleoedd drwy’r theatr: sut mae Cronfa i Gymru yn cefnogi Papertrail

Creu cyfleoedd drwy’r theatr: sut mae Cronfa i Gymru yn cefnogi Papertrail

Diolch i grant o £2,000 gan Cronfa i Gymru, a ariannwyd gan chwaraewyr Postcode Lottery, mae'r sefydliad wedi parhau â'i waith o greu cyfleoedd i artistiaid Byddar, anabl a'r rhai sydd heb gael cynrychiolaeth ddigonol, gan helpu i wneud theatr yn fwy hygyrch ledled Cymru.

Weithiau gall y grantiau llai gael yr effaith fwyaf

Weithiau gall y grantiau llai gael yr effaith fwyaf

Pan fydd pobl yn meddwl am roi i elusen, mae’n hawdd dychmygu bod angen symiau sylweddol o arian er mwyn creu newid ystyrlon. Ac wrth gwrs, mae hyn yn hollbwysig. Ond weithiau, mae’r gwahaniaethau mwyaf yn dechrau gyda’r buddsoddiad lleiaf.