Ar ol cam-drin domestig a trais, nawr mae gen i lais. Alla i ddim dweud wrthoch faint o wahaniaeth y mae hyn wedi’i wneud i mi

Cronfa Dioddefwyr Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru

Ar ol cam-drin domestig a trais, nawr mae gen i lais. Alla i ddim dweud wrthoch faint o wahaniaeth y mae hyn wedi’i wneud i mi

“Drwy’r hyder a’r sgiliau rwyf wedi’u datblygu ers ymuno â SEEDS rwyf wedi llwyddo i ddychwelyd i’r gwaith ar ôl cyfnod o ansicrwydd a diffyg hunangred.”

Cymorth i Ferched Cymru yw elusen genedlaethol Cymru sy’n gweithio i atal a rhoi terfyn ar gam-drin domestig a phob math o drais yn erbyn Merched. Dyfarnwyd £30,000 i’r elusen er mwyn parhau â’r gwaith o ehangu ei phrosiect Gwasanaethau Grymuso Goroeswyr ac Addysg (SEEDS) yng Nghaerdydd a’r Fro.

Mae SEEDS yn brosiect cyfranogi i oroeswyr sy’n dod â merched o bob rhan o Dde Cymru ynghyd ac yn darparu hyfforddiant, cymorth ac adnoddau yn ogystal â lle diogel i oroeswyr ddysgu oddi wrth ei gilydd ac annog ei gilydd.

Cafodd Cymorth i Ferched Cymru gyllid i barhau â’r gwaith o ehangu prosiect SEEDS er mwyn darparu hyfforddiant achrededig a chyfleoedd i feithrin sgiliau i ferched yng Nghaerdydd a’r Fro sydd wedi dioddef trais ac wedi cael eu cam-drin, er mwyn eu galluogi i gyflawni Prosiect Cyfranogi i Oroeswyr.

Caiff cyfranogwyr SEEDS eu cefnogi a’u hannog i rannu eu profiadau eu hunain a phrofiadau goroeswyr eraill o drais a cham-drin. Mae SEEDS yn gweithio i godi ymwybyddiaeth o realiti cam-drin domestig, trais rhywiol a phob math arall o drais yn erbyn merched, drwy gynnal cyfweliadau, ymgyrchoedd ymwybyddiaeth sy’n rhannu profiadau o gam-drin, siarad mewn cynadleddau rhanbarthol a chenedlaethol a mynychu digwyddiadau rhwydweithio.

Mae’r arian mae’r elusen wedi’i gael wedi’i galluogi i gynnig cyfleoedd hyfforddiant i fwy o ferched er mwyn helpu i feithrin hyder a sgiliau goroeswyr fel eu bod yn teimlo bod ganddynt y wybodaeth sydd ei hangen arnynt a’u bod wedi’u grymuso i wneud newid cadarnhaol i bolisïau, ymarfer a gwasanaethau trais yn erbyn merched.

O ganlyniad i gymryd rhan yn y prosiect a manteisio ar hyfforddiant, mae llawer o ferched wedi symud ymlaen i gael swydd neu wedi cael eu dyrchafu. Meddai un ferch:

“Roeddwn am i chi wybod bod SEEDS wedi fy helpu yn fy swydd. Rwy’n cael adborth sy’n dweud fy mod wedi tyfu yn ystod y ddwy flynedd diwethaf…yn sydyn mae gen i lais yma hefyd. I’r fath raddau fel eu bod yn ystyried rhoi rhagor o hyfforddiant er mwyn i mi arbenigo a gwneud fy oriau yn barhaol. Rwy’n teimlo bod SEEDS wedi rhoi hwb i’m hyder a’m hunanwerth ac mae fy ngweithle bellach yn fy ystyried yn rhywun sy’n symud ymlaen ac yn werth buddsoddi ynddi. Alla i ddim dweud wrthoch faint o wahaniaeth y mae hyn wedi’i wneud i mi.”

Mae’r hyfforddiant, sy’n bosibl gyda’r cyllid hwn, yn helpu goroeswyr i dyfu a datblygu ac mae’n cael effaith gadarnhaol ac amlwg ar eu bywydau bob dydd.

Stories

Buddsoddi mewn pobl, sgiliau a threftadaeth: cefnogi’r genhedlaeth nesaf o grefftwyr Cymreig

Buddsoddi mewn pobl, sgiliau a threftadaeth: cefnogi’r genhedlaeth nesaf o grefftwyr Cymreig

Cafodd tri unigolyn o Gymru bwrsariaethau i ddatblygu sgiliau arbenigol mewn gwaith gof, melino hetiau, a gwaith coed, sy’n helpu i ddiogelu traddodiadau crefft, gan hefyd agor drysau newydd i bobl sy’n wynebu rhwystrau sylweddol i hyfforddiant a chyflogaeth.

“Gall y pethau bach wneud byd o wahaniaeth” – Cefnogi cymunedau drwy’r argyfwng costau byw

“Gall y pethau bach wneud byd o wahaniaeth” – Cefnogi cymunedau drwy’r argyfwng costau byw

Banc Bwyd Rhydaman

Dathlu Mis Pride a phwysigrwydd cefnogaeth gymunedol yng Nghymru

Dathlu Mis Pride a phwysigrwydd cefnogaeth gymunedol yng Nghymru

Rrydym yn falch o gefnogi nifer o sefydliadau sy’n gweithio drwy gydol y flwyddyn i wella bywydau pobl LGBTQ+ ledled Cymru.

Sut y gall grantiau bach greu cyfleoedd sy’n newid bywydau

Sut y gall grantiau bach greu cyfleoedd sy’n newid bywydau

Pan fydd pobl yn meddwl am ddyngarwch, yn aml y rhoddion mawr a’r ymgyrchoedd codi arian sylweddol sy’n dod i’r meddwl. Ond gall symiau cymharol fach o gyllid hefyd gael effaith drawsnewidiol ar ddyfodol rhywun.