Sut y gall grantiau bach greu cyfleoedd sy’n newid bywydau

Pan fydd pobl yn meddwl am ddyngarwch, yn aml y rhoddion mawr a’r ymgyrchoedd codi arian sylweddol sy’n dod i’r meddwl. Ond gall symiau cymharol fach o gyllid hefyd gael effaith drawsnewidiol ar ddyfodol rhywun.

Sut y gall grantiau bach greu cyfleoedd sy’n newid bywydau

Yn ddiweddar, cawsom ddiweddariad ysbrydoledig gan Ben, myfyriwr sydd wedi teithio o Brifysgol Briste yr holl ffordd i’r Ynys Las, wrth ddilyn ei freuddwyd o’r gwyddorau daearyddol. Diolch i gefnogaeth gan ein Cronfa Wyddoniaeth Gogledd-ddwyrain Cymru, dyfarnwyd £1,000 i Ben i gefnogi taith pedair wythnos i Kangerlussuaq, Yr Ynys Las, lle bu’n casglu data ar gyfer ei draethawd israddedig tra’n cyfrannu at Brosiect Ymchwil NERC SLIDE yn Isunnguata Sermia.

I Ben, roedd y cyllid yn talu costau teithio i’r Ynys Las ac yn ôl – cost a allai fel arall fod wedi atal rhag mynd.

Cefnogi’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr

Yn ystod ei gyfnod yn yr Ynys Las, datblygodd Ben brofiad ymarferol mewn ystod o dechnegau arolygu rhewlifol, gan gynnwys:

  • Systemau lleoli Leica GNSS
  • Geoffonau ar gyfer mesuriadau seismolegol
  • Defnyddio CryoEgg a gwasanaethu derbynyddion

Yn ogystal â hyn, casglodd samplau dŵr a gwaddod crog ar hyd afonydd Watson ac Akuliarusiarsuup Kuua fel rhan o’i ymchwil traethawd hir, sy’n canolbwyntio ar gemeg dŵr tawdd rhewlifol a chrynodiadau silica ar draws yr amgylchedd rhagrewlifol.

Nid yn unig y cyfrannodd yr daith at ei ddatblygiad academaidd, ond fe gryfhaodd ei uchelgais i barhau i ymchwilio yn y maes rhewlifeg.

Wrth fyfyrio ar y cyfle, rhannodd Ben ei ddiolch i’r sefydliadau sydd wedi ei gefnogi, gan gynnwys Sefydliad Cymunedol Cymru a’n Cronfa Wyddoniaeth Gogledd-ddwyrain Cymru.

Pam mae cyllid i unigolion yn bwysig

Mae straeon fel un Ben yn ein hatgoffa nad yw dyngarwch yn ymwneud yn unig ag ariannu sefydliadau mawr neu brosiectau sylweddol. Weithiau, gall cefnogaeth wedi’i thargedu at unigolion ddatgloi cyfleoedd sy’n siapio gyrfaoedd, yn sbarduno arloesedd ac yn ysbrydoli cyfraniadau at gymdeithas yn y dyfodol.

Gall grant cymharol fach helpu rhywun i gael mynediad at addysg, ymgymryd ag ymchwil, datblygu sgiliau arbenigol neu ddilyn cyfleoedd a fyddai ddim yn bosibl fel arall.

I roddwyr, mae’r math hwn o roi yn cynnig cyfle unigryw i fuddsoddi’n uniongyrchol mewn pobl, angerdd a photensial.

Grym dyngarwch sy’n seiliedig ar le

Mae cronfeydd fel Cronfa Wyddoniaeth Gogledd-ddwyrain Cymru yn dangos pwysigrwydd dyngarwch sydd wedi’i wreiddio’n lleol. Drwy gefnogi unigolion a phrosiectau sy’n gysylltiedig â Chymru, gall rhoddwyr helpu i feithrin talent, annog dysgu a chreu cyfleoedd a all gael effaith barhaol, ymhell y tu hwnt i’r grant cychwynnol.

Boed hynny’n cefnogi grwpiau cymunedol, myfyrwyr, ymchwilwyr neu fentrau gar lawr gwlad, mae dyngarwch lleol yn helpu i gryfhau cymunedau a buddsoddi yn nyfodol Cymru.

Cefnogi cyfleoedd y dyfodol

Hoffem longyfarch Ben ar ei gyflawniad anhygoel a dymuno pob llwyddiant wrth iddo barhau â’i astudiaethau a’i ymchwil ym maes rhewlifeg, wedi’i ysbrydoli gan y daith hon i’r Ynys Las.

Rydym hefyd yn hynod ddiolchgar i’r rhoddwyr a’r deiliaid cronfeydd – mae eu haelioni yn gwneud cyfleoedd fel hyn yn bosibl.

Os hoffech ddysgu mwy am y mathau o gyllid sydd ar gael drwy Sefydliad Cymunedol Cymru, neu darganfod sut y gallwch gefnogi unigolion a chymunedau ledled Cymru drwy ddyngarwch, byddem wrth ein bodd yn siarad gyda chi.

Stories

Weithiau Gall y Grantiau Llai Gael yr Effaith Fwyaf

Weithiau Gall y Grantiau Llai Gael yr Effaith Fwyaf

Pan fydd pobl yn meddwl am roi i elusen, mae’n hawdd dychmygu bod angen symiau sylweddol o arian er mwyn creu newid ystyrlon. Ac wrth gwrs, mae hyn yn hollbwysig. Ond weithiau, mae’r gwahaniaethau mwyaf yn dechrau gyda’r buddsoddiad lleiaf.

Buddsoddi mewn pobl, sgiliau a threftadaeth: cefnogi’r genhedlaeth nesaf o grefftwyr Cymreig

Buddsoddi mewn pobl, sgiliau a threftadaeth: cefnogi’r genhedlaeth nesaf o grefftwyr Cymreig

Cafodd tri unigolyn o Gymru bwrsariaethau i ddatblygu sgiliau arbenigol mewn gwaith gof, melino hetiau, a gwaith coed, sy’n helpu i ddiogelu traddodiadau crefft, gan hefyd agor drysau newydd i bobl sy’n wynebu rhwystrau sylweddol i hyfforddiant a chyflogaeth.

“Gall y pethau bach wneud byd o wahaniaeth” – Cefnogi cymunedau drwy’r argyfwng costau byw

“Gall y pethau bach wneud byd o wahaniaeth” – Cefnogi cymunedau drwy’r argyfwng costau byw

Banc Bwyd Rhydaman

Dathlu Mis Pride a phwysigrwydd cefnogaeth gymunedol yng Nghymru

Dathlu Mis Pride a phwysigrwydd cefnogaeth gymunedol yng Nghymru

Rrydym yn falch o gefnogi nifer o sefydliadau sy’n gweithio drwy gydol y flwyddyn i wella bywydau pobl LGBTQ+ ledled Cymru.