Gan bobl ifanc, i bobl ifanc

Cronfa Gymunedol Uchel Siryf Gwent

           

Diolch i gefnogaeth gan Gronfa Gymunedol Uchel Siryf Gwent, cyflwynodd Cymru Creations brosiect ffilmio pwerus a roddodd gyfle i bobl ifanc archwilio achosion a chanlyniadau ymddygiad gwrthgymdeithasol. Drwy gynhyrchu ffilmiau ymarferol, datblygodd bobl ifanc empathi, hyder, a sgiliau bywyd.

Yn Blaenau Gwent, mae Cymru Creations yn rhedeg dwy raglen allweddol: Clwb Cymdeithasol llwyddiannus i bobl dros 60 oed ac Academi Ffilmiau Blaenau Gwent, sy’n dysgu pobl ifanc sut i wneud ffilmiau, o ysgrifennu sgript, i action, i olygu.

Tra bod yr Academi Ffilmiau eisoes yn cefnogi tua 180 o aelodau, gwelodd y tîm fod gofyn i helpu unigolion â phroblemau o ymddygiad gwrthgymdeithasol, a gwneud hynny mewn ffordd oedd yn teimlo’n berthnasol i bobl ifanc. Ni fyddai llawer o’r cyfranogwyr yn cael mynediad i gyfleoedd fel hyn trwy’r ysgol neu wasanaethau traddodiadol.

Gyda chyllid gan Gronfa Gymunedol Uchel Siryf Gwent, lansiodd Cymru Creations brosiect oedd yn canolbwyntio ar greu ffilmiau byrion yn ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, oedd yn cael eu hysgrifennu, eu cynhyrchu a’u perfformio gan bobl ifanc.

Roedd y sesiynau’n rhedeg yn wythnosol, gan gynnig lle diogel, creadigol a chynhwysol. Archwiliodd y cyfranogwyr wahanol safbwyntiau a datblygu sgriptiau yn seiliedig ar senarios bywyd go iawn.

Aeth amcanion y prosiect hwn y tu hwnt i wneud ffilmiau. Roedd y prosiect yn ffordd i bobl ifanc ddatblygu hyder, empathi a sgiliau cyfathrebu yn y byd go iawn – gan atal nhw rhag datblygu ymddygiadau gall niweidio eu dyfodol.

“Mae gan y bobl ifanc ddealltwriaeth well o ymddygiad gwrthgymdeithasol nawr. Maen nhw wedi datblygu empathi ac wedi dysgu sut y gall eu gweithredoedd effeithio ar y gymuned ehangach.”

Stories

Buddsoddi mewn pobl, sgiliau a threftadaeth: cefnogi’r genhedlaeth nesaf o grefftwyr Cymreig

Buddsoddi mewn pobl, sgiliau a threftadaeth: cefnogi’r genhedlaeth nesaf o grefftwyr Cymreig

Cafodd tri unigolyn o Gymru bwrsariaethau i ddatblygu sgiliau arbenigol mewn gwaith gof, melino hetiau, a gwaith coed, sy’n helpu i ddiogelu traddodiadau crefft, gan hefyd agor drysau newydd i bobl sy’n wynebu rhwystrau sylweddol i hyfforddiant a chyflogaeth.

“Gall y pethau bach wneud byd o wahaniaeth” – Cefnogi cymunedau drwy’r argyfwng costau byw

“Gall y pethau bach wneud byd o wahaniaeth” – Cefnogi cymunedau drwy’r argyfwng costau byw

Banc Bwyd Rhydaman

Dathlu Mis Pride a phwysigrwydd cefnogaeth gymunedol yng Nghymru

Dathlu Mis Pride a phwysigrwydd cefnogaeth gymunedol yng Nghymru

Rrydym yn falch o gefnogi nifer o sefydliadau sy’n gweithio drwy gydol y flwyddyn i wella bywydau pobl LGBTQ+ ledled Cymru.

Sut y gall grantiau bach greu cyfleoedd sy’n newid bywydau

Sut y gall grantiau bach greu cyfleoedd sy’n newid bywydau

Pan fydd pobl yn meddwl am ddyngarwch, yn aml y rhoddion mawr a’r ymgyrchoedd codi arian sylweddol sy’n dod i’r meddwl. Ond gall symiau cymharol fach o gyllid hefyd gael effaith drawsnewidiol ar ddyfodol rhywun.