O dyfu cymunedol i gyfleoedd newydd
Mae cefnogaeth gan Ashley Family Foundation yn helpu i greu cyfleoedd, magu hyder a chryfhau cysylltiadau ledled Blaenau Gwent.
Yng nghanol Blaenau Gwent, mae gofod cymunedol yn helpu pobl i ddatblygu sgiliau, meithrin cyfeillgarwch a darganfod cyfleoedd newydd.
Diolch i grant o £8,296 gan Ashley Family Foundation, mae Tillery Action For You (TAFY) wedi parhau i ddatblygu ei chanolfan yn Cwm Meadows, rhan bwysig o’r gymuned sy’n darparu cyfleoedd gwirfoddoli hyblyg, i bobl sy’n wynebu rhwystrau i gyflogaeth a chyfranogiad yn y gymuned.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r safle wedi croesawu 82 o wirfoddolwyr, gan weithio ochr yn ochr ag ysgolion lleol, grwpiau ieuenctid, teuluoedd, oedolion ag anghenion dysgu ychwanegol a phobl sy’n derbyn cymorth iechyd meddwl. Gyda’i gilydd, maent wedi helpu i ddatblygu mannau tyfu cymunedol, gwella mynediad i’r safle a chreu cyfleoedd i bobl ddysgu drwy weithgareddau ymarferol.
Mae’r prosiect yn llawer mwy na menter tyfu bwyd
Mae gwirfoddolwyr wedi ennill sgiliau a chymwysterau newydd, magu hyder a datblygu cysylltiadau cryfach â’u cymuned. I lawer, mae hefyd wedi darparu strwythur, cyfeillgarwch ac ymdeimlad newydd o bwrpas.
Ymunodd un rhiant, sy’n fyddar di-eiriau, fel gwirfoddolwr prawf gwaith a drefnwyd gydag un o bartneriaid y sefydliad. Addasodd TAFY ei ddull gweithredu i’w gefnogi, gan gynnwys darparu dehongliad Iaith Arwyddion Prydain a buddsoddi mewn hyfforddiant staff.
Ers hynny, mae wedi ennill cymwysterau, sicrhau ei drwydded peiriant torri glaswellt ac wedi symud ymlaen i gyfle cyflogaeth â thâl am naw mis. Mae bellach yn dilyn hyfforddiant HGV ar ôl nodi hyn fel ei nod gyrfa hirdymor.
Mae ei daith yn amlygu effaith ehangach y prosiect: helpu pobl i ddatblygu hyder, meithrin sgiliau a chreu cyfleoedd a allai fel arall fod yn anodd eu cyrraedd.
Er gwaethaf tymor tyfu arbennig o heriol, gyda thywydd eithafol yn effeithio ar gynhyrchu bwyd ar draws y safle, mae Cwm Meadows wedi parhau i ddatblygu. Mae partneriaethau newydd wedi’u sefydlu, gweithgareddau ychwanegol wedi’u cyflwyno ac mae mwy o bobl leol wedi’u hannog i gymryd rhan.
I TAFY, mae’r weledigaeth hirdymor yn aros yr un fath: creu gofod cymunedol cynhwysol lle gall pobl o bob oed a gallu ddysgu, cyfrannu a ffynnu.
Gyda chefnogaeth werthfawr gan Ashley Family Foundation, mae’r weledigaeth honno’ yn cael ei wireddu, drwy un cyfle ar y tro.
Stories
Cadw’r drws ar agor i bobl ifanc yn Native Naext Academy
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae grant o £2,000 gan Cronfa i Gymru, a ariannwyd gan Postcode Lottery, wedi helpu Native Radio i dalu costau rhedeg ei stiwdio gymunedol, gan sicrhau bod y gofod yn parhau ar agor ac ar gael i bobl ifanc drwy gydol y flwyddyn.
Creu cyfleoedd drwy’r theatr: sut mae Cronfa i Gymru yn cefnogi Papertrail
Diolch i grant o £2,000 gan Cronfa i Gymru, a ariannwyd gan chwaraewyr Postcode Lottery, mae'r sefydliad wedi parhau â'i waith o greu cyfleoedd i artistiaid Byddar, anabl a'r rhai sydd heb gael cynrychiolaeth ddigonol, gan helpu i wneud theatr yn fwy hygyrch ledled Cymru.