Dyfodol mewn meddygaeth: stori Daniella

Dyfodol mewn meddygaeth: stori Daniella

Mae taith Daniella Nakazzi yn dangos pa mor bwysig yw penderfyniad, cyfle a chefnogaeth. Gyda chymorth Cronfa Brian Rees, mae hi’n cymryd ei chamau cyntaf i ddysgu meddygaeth – a byddwn yn rhannu diweddariadau ar ei siwrnai dros y misoedd i ddod.

Pan symudodd Daniella i Gaerdydd o Uganda yn 2019, ar ôl cyfnod byr yn Kenya, daeth â phenderfyniad gyda hi, a gafodd ei lunio gan brofiadau bywyd. Dechreuodd Daniella weld pwysigrwydd gofal iechyd da ar ôl treulio amser mewn gwersyll ffoaduriaid yn Kenya, a dechreuodd ystyried meddygaeth fel gyrfa ar ôl gweld ei mam yn trio rheoli diabetes.

Drwy wydnwch, ffocws a llawer iawn o waith caled, llwyddodd Daniella yn Ysgol Uwchradd Willows yng Nghaerdydd ac yna yng Ngholeg Dewi Sant. Yr haf hwn, sicrhaodd ei lle i astudio Meddygaeth ym Mhrifysgol Southampton.

Cydnabod potensial
I gefnogi’r cam pwysig hwn, dyfarnwyd Cronfa Brian Rees i Daniella – ysgoloriaeth un-tro a grëwyd er cof am Dr Brian Rees OBE, a oedd yn gyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol dros Gymru, llawfeddyg ac yn gyn Uchel Siryf Morgannwg Ganol. Roedd Brian eisiau i’r ysgoloriaeth gefnogi disgybl o Ysgol Willows gyda dyheadau i astudio meddygaeth – ac mae Daniella’n ymgorffori’r weledigaeth honno. Yn cael ei reoli gan Sefydliad Cymunedol Cymru, mae’r gronfa nawr yn cefnogi Daniella wrth iddi ddechrau yn yr ysgol feddygol, gan leddfu pwysau ariannol a’i galluogi i ganolbwyntio ar ei hastudiaethau.

Dywedodd Daniella: “Heb yr ysgoloriaeth hon, byddai astudio meddygaeth wedi bod yn anodd iawn i mi, ond mae’r gronfa wedi caniatáu i mi barhau gyda fy astudiaethau. Rwy’n teimlo’n hynod o freintiedig i gael y cyfleoedd hyn, ac rwy’n ddiolchgar iawn i Sefydliad Cymunedol Cymru am fy nghefnogi ar y daith hon. Mae’r gefnogaeth yn newid bywyd, ac rwy’n teimlo’n ffodus iawn i fod wedi elwa o’r haelioni a’r gefnogaeth.”

Heriau a llwyddiant
Gan ddod o gartref un rhiant ac o incwm isel, wynebodd Daniella rwystrau ar hyd y ffordd, ond gyda chefnogaeth ei mentoriaid yng Ngholeg Dewi Sant, a’i phenderfyniad ei hun, parhaodd i lwyddo. Cymerodd ran mewn cyfleoedd megis Access to Bristol, enillodd brofiad gwerthfawr drwy leoliadau, a manteisiodd ar arweiniad arbenigol i rai oedd yn awyddus i fod yn feddygon.

Dywedodd Olivia McLaren, Cyfarwyddwr Taith Dysgwr yng Ngholeg Dewi Sant:
“Rydym yn hynod falch o Daniella a’r cyfan y mae wedi’i gyflawni. Mae ei phenderfyniad, ei gwydnwch, a’i dawn academaidd wedi disgleirio ers ei chais cychwynnol i’r Coleg. Mae’r cyfleoedd a gafodd Daniella i fynychu digwyddiadau Sefydliad Cymunedol Cymru a chwrdd â chefnogwyr wedi gwneud gwahaniaeth trawsnewidiol, ac mae ei llwyddiant yn enghraifft wych o’r hyn y gellir ei gyflawni pan gaiff potensial ei feithrin a’i gefnogi.”

Stori o gefnogaeth
Crëwyd Cronfa Brian Rees i anrhydeddu bywyd a gwerthoedd Dr Brian Rees OBE – dyn a oedd wedi ymrwymo i addysg, cymuned a gwasanaeth. Mae ei weledigaeth yn parhau drwy’r ysgoloriaeth hon, sydd wedi rhoi’r cyfle i Daniella ddilyn ei breuddwyd o astudio meddygaeth.

Mae’n enghraifft bwerus o’r hyn y gall rhoddi ei gyflawni. Nid pob rhoddwr fydd yn gallu sefydlu ysgoloriaeth o’r maint hwn – ond gall pob rhodd, beth bynnag yw main y rhodd, agor drysau a chreu cyfleoedd. Trwy Sefydliad Cymunedol Cymru, gall rhoddwyr wireddu’r newid yr hoffem ei weld, boed trwy gymynrodd, cronfa neu rodd un-tro.

Edrych ymlaen
Oherwydd penderfyniad Daniella a chefnogaeth gan y rhai sy’n credu yn ei photensial, bydd Daniella yn dechrau ei hastudiaethau ym Mhrifysgol Southampton. A dim ond y dechrau yw hyn. Byddwn yn cadw mewn cysylltiad â hi drwy gydol ei hamser yn y brifysgol i rannu diweddariadau ar ei siwrnai a’r gwahaniaeth y mae’r gefnogaeth hon yn parhau i’w wneud ar hyd y daith. Llongyfarchiadau, Daniella, ar y cam cyffrous hwn!

News

Gweld y cyfan
Gadael rhodd barhaol

Gadael rhodd barhaol

Ceisiadau ar agor ar gyfer cronfeydd Principality sy’n cefnogi cymunedau ledled Cymru

Ceisiadau ar agor ar gyfer cronfeydd Principality sy’n cefnogi cymunedau ledled Cymru

Cronfa Annette Bryn Parri

Cronfa Annette Bryn Parri

Dros £1.3m wedi’i ddyfarnu mewn grantiau i gefnogi cymunedau Cymru drwy argyfwng costau byw

Dros £1.3m wedi’i ddyfarnu mewn grantiau i gefnogi cymunedau Cymru drwy argyfwng costau byw