Pennod gyffrous newydd i Sefydliad Cymunedol Cymru

Pennod gyffrous newydd i Sefydliad Cymunedol Cymru

Heddiw, rydym yn falch o rannu ein brand newydd! 

Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi bod yn myfyrio ar bwy yw Sefydliad Cymunedol Cymru heddiw, y rôl rydym yn ei chwarae yng Nghymru a sut rydym yn adrodd ein stori. 

Mae llawer wedi newid ers i ni ddechrau yn 1999. Rydym wedi tyfu ein gwaith gyda rhoddwyr, deiliaid cronfeydd, busnesau a chymunedau ledled Cymru. Rydym wedi ehangu’r cyllid rydym yn ei ddosbarthu, dyfnhau ein perthnasoedd a chryfhau ein huchelgais ar gyfer y dyfodol. 

Yr hyn sydd heb newid yw ein nod. Rydym yn dal yma i helpu pobl i fuddsoddi yn nyfodol y cymunedau sy’n bwysig iddynt. Rydym yn dal wedi ymrwymo i dyfu haelioni yng Nghymru. Ac rydym dal yn angerddol dros sicrhau bod rhoi yn creu effaith barhaol mewn cymunedau ledled y wlad. 

Mae ein brand newydd yn adlewyrchu’r sefydliad rydym hediw a’r dyfodol rydym yn helpu i’w adeiladu. Mae hefyd yn ymwneud â llawer mwy na logo neu balet lliw newydd. Mae’n ymwneud â chael stori gliriach am bwy ydym ni, beth rydym yn ei wneud a pham mae hynny’n bwysig. 

Wrth wraidd y brand newydd mae syniad syml: creu daioni drwy haelioni.

Boed hynny’n helpu rhoddwr i sefydlu cronfa elusennol, cefnogi busnes i fuddsoddi mewn cymunedau lleol, neu gysylltu cyllid â sefydliadau ar lawr gwlad, rydym yn credu bod gan haelioni’r grym i greu newid ystyrlon a pharhaol ledled Cymru. 

Fe sylwch ar hunaniaeth weledol newydd sydd wedi’i hysbrydoli gan y bobl, y lleoedd a’r cymunedau sy’n gwneud Cymru’n unigryw. Dros y misoedd nesaf, byddwch yn dechrau gweld y brand newydd yn ymddangos ar draws ein gwefan, cyhoeddiadau, digwyddiadau a sianeli digidol. 

Fel elusen fach, ni fydd hyn yn digwydd dros nos. Byddwn yn cyflwyno’r brand yn raddol, gan wneud diweddariadau dros amser a sicrhau ein bod yn parhau i wneud y defnydd gorau o’n hadnoddau. 

Rydym hefyd yn edrych ymlaen at rannu ein ffilm frand newydd yn ystod yr wythnosau nesaf, gan ddod â’n stori’n fyw drwy leisiau’r bobl, y cymunedau a’r partneriaid sy’n gwneud ein gwaith yn bosibl. 

Er bod ein golwg a’n hiaith wedi esblygu, mae’r ffordd rydym yn cefnogi rhoddwyr, deiliaid cronfeydd, elusennau a chymunedau yn aros yr un fath. Mae rhaglenni cyllido, cronfeydd elusennol a rhoddion yn parhau fel arfer, er y byddwch yn dechrau gweld ein brand newydd yn cael ei gyflwyno ar draws ein cyfathrebiadau a’n deunyddiau. 

Mae ein brand newydd yn adlewyrchu’r sefydliad rydym wedi datblygu i fod a’n huchelgais ar gyfer y dyfodol. Rydym yn edrych ymlaen at ddechrau’r bennod newydd hon! 

Os hoffech ddysgu mwy am y meddwl y tu ôl i’n brand newydd a beth mae’n ei olygu i Sefydliad Cymunedol Cymru, gallwch ddarllen ein Cwestiynau Cyffredin am y brand yma. 

News

Gweld y cyfan
Cronfa newydd i gefnogi cymunedau ledled Sir y Fflint

Cronfa newydd i gefnogi cymunedau ledled Sir y Fflint

Mae Tiny Rebel yn ehangu ei effaith gymunedol ledled Cymru

Mae Tiny Rebel yn ehangu ei effaith gymunedol ledled Cymru

Dyfarnwyd cyllid i 13 o grwpiau cymunedol ledled Gwent i gefnogi pobl ifanc

Dyfarnwyd cyllid i 13 o grwpiau cymunedol ledled Gwent i gefnogi pobl ifanc

Mae’r Randal Foundation yn cefnogi 19 o sefydliadau ar llawr gwlad ledled Cymru

Mae’r Randal Foundation yn cefnogi 19 o sefydliadau ar llawr gwlad ledled Cymru