Grantiau Dydd Gŵyl Dewi yn cefnogi dau berson ifanc i gymryd y camau nesaf yn eu gyrfaoedd

Cyhoeddwyd dau dderbynnydd grant lwcus o Gronfa Ddyngarol Cymru yn Llundain yn nathliad Dydd Gŵyl Dewi ar-lein eleni.

Derbyniodd Jacob grant i gefnogi ei symudiad o Ogledd Cymru wledig i Lundain i gymryd ei le ar gynllun graddedigion Technoledg Gwybodaeth yn Llundain. Astudiodd Jacob Seiberddiogelwch ym Mhrifysgol Gaer am 3 blynedd, gan ennill gradd anrhydedd Dosbarth 1af a threuliodd y flwyddyn ganlynol yn astudio meistr mewn Systemau Gwybodaeth Cyfrifiadurol ym Mhrifysgol John Moore Lerpwl.

Bydd Hannah (yn y llun), sy’n chwarae’r fiola, yn defnyddio’r arian i ddilyn cwrs ôl-raddedig yn Ysgol Cerdd a Drama Guildhall ym mis Medi. Mae Hannah yn gobeithio dilyn gyrfa mewn cerddoriaeth fel unawdydd, cerddor siambr ac aelod o gerddorfa broffesiynol.

Mae Cronfa Ddyngarol Cymru yn Llundain, a reolir gan Sefydliad Cymunedol Cymru, yn cefnogi pobl ifanc a gafodd eu geni a/neu eu haddysgu yng Nghymru i ddatblygu eu sgiliau addysg, dysgu, busnes a gyrfa, ac ehangu eu gorwelion yn Llundain neu y tu allan i Gymru. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y gronfa yma.

News

Gweld y cyfan
Yn dod yn fuan: Ffordd symlach a chyflymach o wneud cais am gyllid

Yn dod yn fuan: Ffordd symlach a chyflymach o wneud cais am gyllid

Gadael rhodd barhaol

Gadael rhodd barhaol

Dyfodol mewn meddygaeth: stori Daniella

Dyfodol mewn meddygaeth: stori Daniella

Ceisiadau ar agor ar gyfer cronfeydd Principality sy’n cefnogi cymunedau ledled Cymru

Ceisiadau ar agor ar gyfer cronfeydd Principality sy’n cefnogi cymunedau ledled Cymru