Sut i ddefnyddio ein Hwb Grantiau
Ein Hwb Grantiau yw lle caiff ceisiadau am gyllid eu rheoli. Mae’r fideos byr hyn yn ganllawiau dewisol i’ch helpu i ddefnyddio’r system yn hyderus.
Gallwch wylio’r fideos i gyd i gael trosolwg o’r broses, neu neidio i ganllaw penodol pryd bynnag y bydd angen help arnoch gyda cham penodol.
Gall gwneud cais am gyllid deimlo fel lot o waith, yn enwedig os ydych yn brin o amser neu’n jyglo ymrwymiadau eraill. Os oes angen help arnoch ar unrhyw adeg, gallwch gysylltu â ni a byddwn yn hapus i drafod pethau gyda chi.
Rydym am i’r Hwb Grantiau fod mor glir a syml â phosibl. Cymerwch eich amser, gweithiwch ar eich cyflymder eich hun, a defnyddiwch y canllawiau sy’n fwyaf defnyddiol i chi.