Gymaint mwy na jest adroddiad arall…

Fel y gwelaf, mae safonau llywodraethu ar gyfer y sector elusennol yn llawer uwch na sectorau eraill.

Mae’r holl ffeithiau I’r gweld – yr heriau ariannol, mynd a dod aelodau y bwrdd a hyd yn oed y cyfraddau presenoldeb am gyfarfodydd bwrdd. Eleni, am y tro cyntaf, rydym wedi mynd gam ymhellach ac wedi cyhoeddi dadansoddiad o gyfansoddiad ein staff a’n bwrdd ymddiriedoli

Mae’r lefel ymao dryloywder yn bwysig i ni, i rannu ein llwyddiannau ond hefyd i ddeall yn well ble rydym yn mynd, a rhai o’r camau y bydd angen i ni eu cymryd i gyrraedd yno.

Wrth gwrs, mae llywodraethu da a thryloywder yn sylfeini i unrhyw elusen.

Fel sector, rydym yn dibynnu ar gefnogaeth, dealltwriaeth ac ewyllys da y cefnogwyr sy’n rhannu ein hamcanion o greu Cymru well gyda chymunedau cryfach.

Er mwyn cyflawni hynny, mae’n rhaid i’r cyhoedd fod yn hyderus bod eu rhoddion a’u cefnogaeth yn cael eu defnyddio’n dda.

Dyna pam mae cyhoeddi adroddiad blynyddol Sefydliad Cymunedol Cymru yn ddiwrnod mawr i’r elusen. Dyma ein cyfle i rannu ein stori.

Drwy’r tudalenni, fe welwch straeon ysbrydoledig sy’n dangos sut y gall ychydig o gyllid fynd mor bell wrth gefnogi cymuned i wneud pethau gwych. Fe ddarllenwch am bartneriaethau gwych rhwng sefydliadau sy’n rhannu’r un gwerthoedd. Hyn oll ac, fel pob elusen arall, tudalen ar ôl tudalen o dryloywder ynghylch sut rydym yn rhedeg ein sefydliad.

Mae fy nghydweithwyr wedi gweithio’n galed yn ein hadroddiad blynyddol eleni – ewch i edrych a gweld beth rydych chi’n ei feddwl…

News

Gweld y cyfan
Gadael rhodd barhaol

Gadael rhodd barhaol

Dyfodol mewn meddygaeth: stori Daniella

Dyfodol mewn meddygaeth: stori Daniella

Ceisiadau ar agor ar gyfer cronfeydd Principality sy’n cefnogi cymunedau ledled Cymru

Ceisiadau ar agor ar gyfer cronfeydd Principality sy’n cefnogi cymunedau ledled Cymru

Cronfa Annette Bryn Parri

Cronfa Annette Bryn Parri