Mae’r Randal Foundation yn cefnogi 19 o sefydliadau ar llawr gwlad ledled Cymru

Mae’r Randal Foundation yn cefnogi 19 o sefydliadau ar llawr gwlad ledled Cymru

Mae pedwar ar bymtheg o sefydliadau ar lawr gwlad ledled Cymru wedi derbyn cefnogaeth drwy ein partneriaeth gyda’r Randal Foundation, gan helpu i gryfhau cymunedau a gwella bywydau ledled y wlad.

Mae’r sefydliad wedi ehangu ei gyrhaeddiad yng Nghymru, gan gefnogi grwpiau cymunedol lle mae eu gwaith yn adlewyrchu blaenoriaethau elusennol y sefydliad.

Dywedodd Dr Nik Kotecha OBE DL, Cadeirydd y Randal Foundation: “Rydym yn falch o gefnogi Sefydliad Cymunedol Cymru, gan fod ei gwybodaeth leol a’i hymrwymiad i gymunedau yn cyd-fynd yn agos ag amcanion the Randal Foundation i achub a gwella bywydau. Drwy’r bartneriaeth hon, rydym yn cefnogi sefydliadau hanfodol ar lawr gwlad ledled Cymru, sy’n gwneud gwahaniaeth ystyrlon i fywydau pobl, yn enwedig mewn meysydd megis lleddfu tlodi, iechyd meddwl ac addysg i bawb. Rydym yn falch o weithio mewn partneriaeth â Sefydliad Cymunedol Cymru i alluogi’r gwaith pwysig hwn gan gefnogi cymunedau cryf a gwydn.”

Mae’r Randal Foundation yn gweithio i wella bywydau pobl ar draws y DU ac yn fyd-eang. Drwy weithio gyda sefydliadau ysbrydoledig, mae’r sefydliad yn darparu cefnogaeth a chyllid hanfodol i greu cyfleoedd a meithrin gobaith i’r rhai sy’n wynebu’r heriau mwyaf.

Ledled Cymru, mae llawer o gymunedau yn parhau i wynebu heriau sylweddol, gyda thua 24% o bobl yn byw mewn tlodi a 31% o blant yn tyfu i fyny mewn tlodi. Mae’r sefydliadau sydd wedi derbyn cefnogaeth drwy’r rhaglen hon yn mynd i’r afael â’r materion hyn mewn ffyrdd ymarferol ac ysbrydoledig, gan helpu pobl drwy galedi ariannol, cefnogi iechyd meddwl a llesiant, a chreu cyfleoedd sy’n codi dyheadau ar gyfer y dyfodol.

Yng Nghaerdydd, mae Tiger Bay Boxing Club yn grymuso pobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig drwy sesiynau chwaraeon strwythuredig ochr yn ochr â mentora, cefnogaeth addysgol, a chanllawiau iechyd meddwl. Yn y cyfamser, mae The Age & Dementia Café yn darparu lle croesawgar lle gall pobl sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr gysylltu â’i gilydd, cael mynediad at gyngor, a lleihau unigrwydd.

Mewn mannau eraill, mae The Woodland Hub yn Llandrindod yn creu cyfleoedd i deuluoedd a phobl ifanc gysylltu â natur drwy chwarae, dysgu a chynnal gweithgareddau cymunedol. Tra bod NeuroBusiness CIC yn Ne Cymru yn cefnogi pobl niwrowahanol i archwilio cyflogaeth, hunangyflogaeth, a chyfranogiad yn y gymuned.

Ledled Cymru, mae’r prosiectau hyn, a’r prosiectau eraill sydd wedi’u cefnogi, yn helpu pobl i feithrin hyder, cryfhau cysylltiadau, a chael mynediad at gymorth hanfodol yn eu hardaloedd lleol.

Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda’r Randal Foundation ac yn edrych ymlaen at rannu mwy o straeon am yr effaith gadarnhaol y mae’r sefydliadau hyn yn ei chael mewn cymunedau ledled Cymru.

News

Gweld y cyfan
The Goodwash Company yn cryfhau ei gefnogaeth i gymunedau Cymru

The Goodwash Company yn cryfhau ei gefnogaeth i gymunedau Cymru

Rydym wedi lansio ein Hwb Grantiau newydd!

Rydym wedi lansio ein Hwb Grantiau newydd!

Dyfarnwyd £600,000 i gymunedau ledled Cymru drwy bartneriaeth gyda’r Principality

Dyfarnwyd £600,000 i gymunedau ledled Cymru drwy bartneriaeth gyda’r Principality

Cadw ein cyfathrebiadau’n ddiogel

Cadw ein cyfathrebiadau’n ddiogel