Hwb o £90,000 wedi’i gyhoeddi i bobl ifanc sy’n gadael gofal yng Nghymru wrth i raglen genedlaethol ehangu

Hwb o £90,000 wedi’i gyhoeddi i bobl ifanc sy’n gadael gofal yng Nghymru wrth i raglen genedlaethol ehangu

Mae pobl ifanc sy’n gadael gofal yng Nghymru ar fin elwa o hwb ariannol sylweddol, ar ôl i Sefydliad Cymunedol Cymru sicrhau £90,000 fel rhan o ehangiad y Rhaglen Pobl Sy’n Gadael Gofal ledled y DU.

Bydd y cyllid yn cefnogi pobl ifanc â phrofiad o ofal dros y tair blynedd nesaf, gyda’r rhaglen estynedig yn cael ei lansio ym mis Ebrill 2026. Byddwn nawr yn gweithio i sicrhau cyllid cyfatebol, fydd yn dyblu effaith y buddsoddiad hwn ar draws cymunedau Cymru.

Lansiwyd y Rhaglen Pobl Sy’n Gadael Gofal yn 2024 gan Local Authorities’ Mutual Investment Trust (LAMIT) a Sefydliadau Cymunedol y DU (UKCF), mewn cydweithrediad â’r rheolwr buddsoddi CCLA. Mae’n rhaglen aml-flwyddyn sy’n darparu cefnogaeth i bobl ifanc sy’n gadael gofal i’w helpu i oroesi a ffynnu wrth bontio i fywyd oedolyn.

O fwrsariaethau prifysgol a gwersi gyrru, i offer cartref a hyfforddiant gyrfa, mae’r rhaglen yn cefnogi pobl ifanc i gymryd eu camau nesaf.

Bydd rhodd newydd o £1.7 miliwn dros dair blynedd gan Henry Smith Foundation yn ehangu’r rhaglen i 14 ardal newydd ar draws y DU, gan gynnwys Cymru. Bydd yr ehangiad hwn yn cynyddu gwerth y rhaglen yn gyffredinol i £7 miliwn, gan gynnwys cyllid cyfatebol, yn cynyddu ei chyrhaeddiad, ei heffaith a hyd y ddarpariaeth yn sylweddol.

Dywedodd Anand Shukla, Prif Weithredwr Henry Smith Foundation:

“Rydym wrth ein bodd yn ariannu ehangiad y Rhaglen Pobl Sy’n Gadael Gofal ledled y DU. Mae’r gwaith hwn yn bwysig ac yn uchelgeisiol, gan ddod â sefydliadau cymunedol, awdurdodau lleol a’r Henry Smith Foundation ynghyd. Gyda’n gilydd, byddwn yn cynyddu’r gefnogaeth hanfodol i bobl ifanc sy’n gadael gofal, a’r sefydliadau elusennol sy’n eu cefnogi wrth iddynt lywio’r daith i fyd oedolion.”

Bydd cyllid cyfatebol yn chwarae rhan hanfodol wrth dyfu’r rhaglen yng Nghymru, gyda phob punt a roddir yn helpu i ddatgloi hyd yn oed mwy o gefnogaeth i bobl ifanc â phrofiad o ofal.

Dywedodd Andrea Powell, Cyfarwyddwr Rhaglenni a Dirprwy Brif Weithredwr Sefydliad Cymunedol Cymru:

“Mae’r buddsoddiad o £90,000 hwn yn rhoi man cychwyn cadarn i ni, ond daw’r gwahaniaeth gwirioneddol o’r hyn y gallwn ei adeiladu gyda’n gilydd. Gyda chyfraniadau cyfatebol yn eu lle, mae pob cyfraniad yn ein helpu i ymestyn ymhellach – gan gynnig cyfleoedd a chymorth ymarferol ychwanegol i bobl ifanc wrth iddynt symud i fyd oedolion.”

Mae adroddiad newydd, a gyhoeddwyd gan UKCF, yn dangos y cyrhaeddiad y mae’r Rhaglen Pobl Sy’n Gadael Gofal eisoes wedi’i gael.

Dywedodd Emma de Closset, Prif Weithredwr UKCF:

“Mae’r Rhaglen Pobl Sy’n Gadael Gofal eisoes wedi dangos pŵer partneriaethau lleol i greu newid gwirioneddol a pharhaol i bobl ifanc â phrofiad o ofal. Rydym wedi gweld effaith y rhaglen yn ei blwyddyn gyntaf, ac rydym yn falch iawn o’i hehangu ymhellach gyda chefnogaeth yr Henry Smith Foundation.

“Drwy ehangu’r rhaglen i 14 o sefydliadau cymunedol ychwanegol, mae’r cam nesaf yn cynnig cyfle gwych i fwy o bartneriaid lleol a chenedlaethol helpu i adeiladu dechrau tecach i bobl ifanc sy’n gadael gofal, gan sicrhau bod ganddynt y gefnogaeth y mae pob person ifanc yn ei haeddu.”

Un o brif nodau’r Rhaglen Pobl Sy’n Gadael Gofal yw cryfhau partneriaethau rhwng awdurdodau lleol a rhwydweithiau cymorth i bobl sy’n gadael gofal, gan helpu i adeiladu cefnogaeth fwy cydgysylltiedig a hirdymor i bobl ifanc ar draws Cymru.

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am sut i gymryd rhan mewn cefnogi’r rhaglen yng Nghymru, cysylltwch â ni.

       

News

Gweld y cyfan
Yn dod yn fuan: Ffordd symlach a chyflymach o wneud cais am gyllid

Yn dod yn fuan: Ffordd symlach a chyflymach o wneud cais am gyllid

Gadael rhodd barhaol

Gadael rhodd barhaol

Dyfodol mewn meddygaeth: stori Daniella

Dyfodol mewn meddygaeth: stori Daniella

Ceisiadau ar agor ar gyfer cronfeydd Principality sy’n cefnogi cymunedau ledled Cymru

Ceisiadau ar agor ar gyfer cronfeydd Principality sy’n cefnogi cymunedau ledled Cymru