Rydym wedi lansio ein Hwb Grantiau newydd!
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod ein Hwb Grantiau newydd bellach yn fyw.
Mae’r system newydd yn ei gwneud yn symlach, yn gyflymach ac yn gliriach i wneud cais am grantiau a’u rheoli gyda Sefydliad Cymunedol Cymru, gan ein helpu i gefnogi cymunedau yn fwy effeithlon ledled Cymru.
Drwy’r Hwb Grantiau, gallwch nawr:
- Weld a rheoli eich holl geisiadau grant mewn un lle
- Olrhain cynnydd eich cais
- Derbyn grantiau a gymeradwywyd ar-lein
- Cwblhau gofynion monitro yn gyflym ac yn hawdd
- Diweddaru manylion eich sefydliad pryd bynnag y bydd angen
Rydym hefyd wedi symleiddio ein ffurflenni fel ein bod ond yn gofyn am y wybodaeth sy’n wirioneddol bwysig, gan adlewyrchu ein hymrwymiad parhaus o dan egwyddorion Grantio Agored ac Ymddiriedus IVAR i barchu amser ymgeiswyr a gwneud ein prosesau’n fwy hygyrch.
Rydym yn falch iawn o lansio system sydd wedi’i chynllunio o amgylch y bobl sy’n ei defnyddio. Mae’r Hwb Grantiau newydd yn gam mawr ymlaen yn y ffordd rydym yn darparu cyllid, gan wneud y broses yn haws, yn gliriach ac yn fwy tryloyw i ymgeiswyr, cyllidwyr a’n partneriaid.
Mae’r holl ddata cais presennol wedi’i drosglwyddo’n ddiogel i’r system newydd, a gallwch nawr gofrestru neu fewngofnodi drwy ein gwefan.
I’ch helpu i ddechrau, rydym wedi creu amrywiaeth o ddeunyddiau hyfforddi a chanllawiau, gan gynnwys cyfarwyddiadau cam wrth gam a fideos byr sy’n eich tywys drwy nodweddion newydd y system.
Mae’r Hwb Grantiau ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg, ac mae ein tîm wrth law i ateb unrhyw gwestiynau neu gynnig cyngor.
- I ddarganfod mwy am ein grantiau a’r hwb, cliciwch yma
- Darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin am yr hwb yma
- Gwyliwch ein canllawiau ar gyfer cwblhau eich cais yma
- Angen cymorth pellach? Anfonwch e-bost at grants@communityfoundationwales.org.uk neu ffoniwch 02920 379580.