Kira Meehan

Cydlynydd Cyfathrebu a Marchnata

Fy nghefndir

Rydw i newydd orffen astudio’r Cyfryngau a Chyfathrebu ym Mhrifysgol Caerdydd ac ar ôl syrthio mewn cariad â’r ddinas a marchnata, mi nes i ddarganfod Sefydliad Cymunedol Cymru! Yn y gorffennol, rydw i wedi gweithio i Undeb Myfyrwyr Caerdydd a Gŵyl In It Together, gan greu cynnwys cyfryngau cymdeithasol ar draws amrywiaeth o lwyfannau, yn canolbwyntio’n bennaf ar fidio. Rwyf wedi bod yn hoff o olygu a chreu fidio drwy gydol fy mywyd hyd yma a fy nod yw gwneud i bobl deimlo rhywbeth trwy fy nghynnwys bob, boed hynny’n hapusrwydd, hiraeth neu ysbrydoliaeth.

Yr hyn rwy'n ei wneud

Ers dechrau ym mis Awst 2025, rydw i wedi bod yn creu llawer o’r cynnwys rydych chi’n ei weld ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol. Fy nod yw cynyddu ein cynnwys ac adrodd straeon, gan gynyddu ymgysylltiad, a hyrwyddo’r gwaith anhygoel sy’n digwydd yn y sefydliad. Rydw i’n gobeithio gweithio’n agos gyda llawer o’r cymunedau rydyn ni’n eu cefnogi a chreu cynnwys sy’n ysbrydoli pobl i roi, fel y gallwn ni barhau i wneud y gwaith hanfodol rydyn ni’n ei gyflawni.

Holwch fi ynghylch

Y bobl anhygoel rydyn ni’n eu cefnogi drwy’r sefydliad a sut y gallwn ni gydweithio i siapio eu dyfodol!

Pam rwy'n caru Cymru

Ar ôl astudio yma, rydw i wedi dod i werthfawrogi Cymru fel cenedl anhygoel sydd mor falch o bopeth y mae wedi’i gyflawni! Rydw i wrth fy modd â phopeth Cymreig gan gynnwys Cacennau Cri ar y Maen o’r farchnad yma yng Nghaerdydd a’r acen sy’n aml y fy atgoffa o gartref. Yn fwy na dim, rydw i wrth fy modd â’r ymdeimlad o gymuned a chyfeillgarwch sy’n cael ei deimlo ym mhobman yr ewch chi.

Team members

Gweld y cyfan
Richard Williams

Richard Williams

Prif Weithredwr

Andrea Powell

Andrea Powell

Cyfarwyddwr Rhaglenni (Dirprwy Prif Weithredwr)

Katy Hales

Katy Hales

Cyfarwyddwr Dyngarol

Eleri Phillips Adams

Eleri Phillips Adams

Pennaeth Cyfathrebu a Marchnata