The Goodwash Company yn cryfhau ei gefnogaeth i gymunedau Cymru
Rydym yn falch iawn o rannu bod The Goodwash Company wedi dod yn Gyfaill i Sefydliad Cymunedol Cymru, gan roi rhodd i’n Cronfa i Gymru i helpu cefnogi sefydliadau a grwpiau cymunedol ar lawr gwlad yng Nghymru.
Wedi’i sefydlu yng Nghymru, mae Goodwash wedi hyrwyddo effaith gymdeithasol ochr yn ochr â’i fusnes ers tro. Drwy gyfrannu at Cronfa i Cymru, mae’r cwmni’n helpu sicrhau bod cyllid yn cyrraedd elusennau bach a mentrau lleol sy’n gwneud gwahaniaeth yn eu cymunedau.
Dywedodd Mandy Powell, Sylfaenydd The Goodwash Company: “Mae Gwneud Daioni ar draws cymunedau Cymru yn werth craidd i Goodwash Company. Bob tro y byddwch yn golchi, mae pethau da yn digwydd i bobl a chymunedau Cymru. Mae Sefydliad Cymunedol Cymru yn rhoi ffordd i Goodwash ddosbarthu cyllid i’r achosion a’r prosiectau sydd bwysicaf i ni a’n cwsmeriaid.”
Dywedodd Katy Hales, Cyfarwyddwr Dyngarwch Sefydliad Cymunedol Cymru: “Mae The Goodwash Company wastad wedi bod yn fusnes â phwrpas cryf, ac rydym wedi bod yn falch o weithio ochr yn ochr â nhw ers 2018. Mae’n wych gweld eu hymrwymiad parhaus i gefnogi cymunedau ledled Cymru drwy’r cyfraniad hwn i Cronfa i Gymru. Mae cefnogaeth fel hyn yn ein helpu i gyfeirio cyllid at sefydliadau ar lawr gwlad sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn lleol.”
Wrth edrych ymlaen, rydym yn rhannu uchelgais hirdymor gyda Goodwash i sefydlu cronfa elusennol bwrpasol a fydd yn cefnogi achosion da ledled Cymru.
Mae Cronfa i Gymru yn cefnogi amrywiaeth eang o brosiectau sy’n cael eu harwain gan y gymuned, sy’n gwella llesiant pobl ac yn helpu grwpiau lleol i ffynnu. Gallwch ddarganfod mwy am y Gronfa yma.