Neil Moss
Ymddiriedolwr

Fy nghefndir
Cefais fy ngeni a’m magu yng Nghaerdydd, astudiais yn Leicester ac er fy mod eisiau bod yn gyfrifydd, dechreuais weithio yn y byd gwasanaethau ariannol, lle’r wyf wedi gweithio ers dros 40 mlynedd. Ymunais yn wreiddiol â Legal & General, oedd yn le gwych i ddechrau, cyn ymuno â chwmni gwasanaethau ariannol bach lle roeddwn yn cynghori cleientiaid ar fuddsoddiadau a chynllunio treth. Prynwyd y cwmni hwn gan Gymdeithas Adeiladu’r Principality, ac yna des i’n gyfarwyddwr y cwmni gwasanaethau ariannol. Yn y pen draw, sefydlais fy musnes fy hun ym 1995 nes iddo gael ei werthu ym Mehefin 2024, gan barhau fel ymgynghorydd nes imi ymddeol ym Mehefin 2025.
Yr hyn rwy'n ei wneud
Des i’n ymddiriedolwr o Sefydliad Cymunedol Cymru ym Mawrth 2024 ac rwy’n eistedd ar yr is-bwyllgor Risg Ariannol a Buddsoddi yn ogystal ag is-bwyllgor Cynllunio a Datblygu. Rwyf hefyd wedi eistedd ar y panel Grantiau sydd wedi gwneud i mi sylweddoli faint o gymunedau sydd angen cymorth, a dysgodd hyn i mi werthfawrogi’r rôl bwysig a gwerthfawr y mae Sefydliad Cymunedol Cymru yn ei chwarae ledled Cymru. Mae gennyf ddiddordeb o hyd mewn busnesau bach, ond rwy’n mwynhau’r cyfle i roi rhywbeth yn ôl ac i wirfoddoli lle gallaf.
Holwch fi ynghylch...
Sut y gall Sefydliad Cymunedol Cymru helpu a gwneud gwahaniaeth i gymunedau, a sut y gall unigolion eu cefnogi a chreu rhodd hirdymor i helpu a chefnogi’r cymunedau hyn.
Pam rwy’n caru Cymru
Mae Cymru’n gartref i mi erioed. Mae ganddi gymaint o hanes. Mae pobl Cymru bob amser yn gyfeillgar sy’n rhoi croeso cynnes i chi, ynghyd â thirweddau ac arfordir godidog. Mae’n dawel ac yn fach yn y ffordd orau bosibl ac i mi, mae fy ngwreiddiau a’m hatgofion i gyd yng Nghymru… ble arall fyddech chi eisiau byw? Hefyd, y dorf yn Stadiwm y Principality, Cymru’n chwarae yn y Chwe Gwlad – does dim awyrgylch tebyg.