Yn dod yn fuan: Ffordd symlach a chyflymach o wneud cais am gyllid

Yn dod yn fuan: Ffordd symlach a chyflymach o wneud cais am gyllid

Rydym yn paratoi i lansio Hwb Grantiau newydd – ffordd symlach a chyflymach o reoli a gwneud cais am grantiau gyda Sefydliad Cymunedol Cymru.

Bydd y system ar-lein newydd yn ei gwneud yn haws i:

  • Weld a rheoli’ch holl geisiadau mewn un lle
  • Olrhain cynnydd mewn amser go iawn
  • Derbyn grantiau a gymeradwywyd ar-lein
  • Gwblhau gofynion monitro

Rydym hefyd yn symleiddio ein ffurflenni ac yn gofyn am y wybodaeth sydd wir yn bwysig yn unig, gan adlewyrchu ein hymrwymiad o dan egwyddorion Grantio Agored ac Ymddiriedus IVAR i barchu amser ymgeiswyr a gwneud ein prosesau’n fwy hygyrch.

I sicrhau bod popeth yn gweithio, byddwn yn profi’r Hwb Grantiau newydd rhwng Ionawr ac Ebrill 2026, gyda’r nod o’i lansio’n swyddogol yn Ebrill 2026. Bydd ein Cronfa Cymru yn aros ar agor yn ystod y cyfnod hwn i’n helpu i brofi’r system.

Bydd ein tîm grantiau ar gael drwy gydol y cyfnod profi i ateb cwestiynau a rhoi cyngor. Byddwn hefyd yn cynnig sesiynau hyfforddi a deunyddiau canllaw i helpu ymgeiswyr i ddod yn gyfarwydd â’r Hwb Grantiau newydd cyn y lansiad. Cadwch lygad ar ein gwefan a’n cylchlythyrau am fwy o wybodaeth yn fuan.

Bydd yr holl data ceisiadau cyfredol a blaenorol yn cael ei drosglwyddo’n ddiogel i’r system newydd, yn unol â’n polisi diogelu data, a bydd y platfform ar gael yng Nghymraeg ac yn Saesneg.

Rydym yn gwybod y gall gwneud cais am gyllid deimlo’n gymhleth a gall gymryd amser ar adegau. Mae’r Hwb Grantiau newydd yn bwriadu gwneud y profiad hwnnw’n symlach, yn decach ac yn fwy tryloyw, fel y gall pobl dreulio mwy o amser yn canolbwyntio ar eu cymunedau a llai o amser yn llenwi ffurflenni.

Gallwch ddarllen mwy am yr hyn sy’n newid a beth i’w ddisgwyl yn ein Cwestiynau Cyffredin isod.

News

Gweld y cyfan
Gadael rhodd barhaol

Gadael rhodd barhaol

Dyfodol mewn meddygaeth: stori Daniella

Dyfodol mewn meddygaeth: stori Daniella

Ceisiadau ar agor ar gyfer cronfeydd Principality sy’n cefnogi cymunedau ledled Cymru

Ceisiadau ar agor ar gyfer cronfeydd Principality sy’n cefnogi cymunedau ledled Cymru

Cronfa Annette Bryn Parri

Cronfa Annette Bryn Parri