Cefnogi iechyd meddwl mewn cymunedau ledled Cymru

Ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl eleni, rydym yn cydnabod gwaith hanfodol sefydliadau cymunedol ledled Cymru sy’n helpu pobl i dderbyn cefnogaeth a’u galluogi i deimlo’n well.

Cefnogi iechyd meddwl mewn cymunedau ledled Cymru

Mae heriau iechyd meddwl yn effeithio ar bobl o bob oedran a chefndir. Mae adroddiadau’n dangos bod 1 mewn pob 6 person ifanc yng Nghymru yn cael trafferth gyda’u hiechyd meddwl, tra bod llawer o oedolion hefyd yn wynebu unigrwydd, gorbryder, pwysau ariannol a rhwystrau wrth dderbyn cefnogaeth. Dyna pam mae hi mor bwysig i fuddsoddi mewn mentrau lles lleol dan arweiniad y gymuned.

Rydym yn falch bod llawer o’r grwpiau rydym yn eu hariannu yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn y maes hwn. Diolch i haelioni’r rhai sy’n rhoi i Cronfa i Gymru, rydym yn gallu cefnogi sefydliadau sy’n creu cyfleoedd ar gyfer cysylltiad, codi hyder a gwella lles ledled y wlad.

 

Sylw ar Groundwork Gogledd Cymru

Un enghraifft yw Groundwork Gogledd Cymru, sefydliad sy’n gweithio i wella lles cymdeithasol, economaidd, diwylliannol ac amgylcheddol ar draws chwe sir yng Ngogledd Cymru.

Mae eu rhaglenni eang yn cefnogi pobl o bob oedran a chefndir drwy gynnal:

  • Cyrsiau hyfforddi achrededig ar gyfer sawl sector
  • Rhaglenni cyflogadwyedd sy’n datblygu sgiliau
  • Prosiectau ymgysylltu cymunedol ac amgylcheddol
  • Gweithgareddau addysgol
  • Cyngor ynni cartref i bobl sy’n gwynebu tlodi

Drwy gyfuno cefnogaeth ymarferol â chyfleoedd i gysylltu a datblygu, mae eu gwaith yn helpu i fynd i’r afael â rhai o’r achosion sylfaenol sy’n gallu effeithio ar iechyd meddwl.

 

Creu cysylltiad drwy natur a chreadigrwydd

Gyda chefnogaeth Cronfa Cymru, cynhaliodd Groundwork Gogledd Cymru brynhawn o greadigrwydd yn Nyfroedd Alun, ochr yn ochr â theithiau beicio awyr agored gan ddefnyddio beiciau cynhwysol.

Roedd y gweithgareddau hyn yn cynnig cyfle i bobl dreulio amser ym myd natur, cysylltu ag eraill mewn amgylchedd croesawgar ac adeiladu hyder drwy brofiadau newydd, gan leihau unigrwydd yn eu cymunedau.

Fel rydym yn gwybod, mae yna lawer o fanteision wrth dreulio amser ym myd natur, symud ein cyrff a derbyn cysylltiad cymdeithasol, a gall sesiynau fel hyn gael effaith gadarnhaol ar ein iechyd meddwl.

 

Pam fod cyllid cymunedol yn bwysig

Nid oes yn rhaid i gefnogaeth iechyd meddwl gychwyn mewn lleoliad clinigol. Yn aml, mae’n dechrau mewn mannau cymunedol, drwy grwpiau lleol, gweithgareddau croesawgar a sefydliadau dibynadwy sy’n deall anghenion eu hardal.

Dyna pam mae cefnogaeth rhoddwyr mor bwysig. Trwy Cronfa i Gymru, mae dyngarwch yn helpu sefydliadau lleol i ddarparu cefnogaeth ymarferol ac ataliol lle mae ei hangen fwyaf.

 

 

Cymryd rhan

Os hoffech gefnogi grwpiau sy’n gwella iechyd meddwl a lles ledled Cymru, neu os gall eich sefydliad elwa o gyllid, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

I ddysgu mwy am Cronfa i Gymru, ewch i’n tudalen rhoi neu ein tudalen grantiau.

Stories

Weithiau Gall y Grantiau Llai Gael yr Effaith Fwyaf

Weithiau Gall y Grantiau Llai Gael yr Effaith Fwyaf

Pan fydd pobl yn meddwl am roi i elusen, mae’n hawdd dychmygu bod angen symiau sylweddol o arian er mwyn creu newid ystyrlon. Ac wrth gwrs, mae hyn yn hollbwysig. Ond weithiau, mae’r gwahaniaethau mwyaf yn dechrau gyda’r buddsoddiad lleiaf.

Buddsoddi mewn pobl, sgiliau a threftadaeth: cefnogi’r genhedlaeth nesaf o grefftwyr Cymreig

Buddsoddi mewn pobl, sgiliau a threftadaeth: cefnogi’r genhedlaeth nesaf o grefftwyr Cymreig

Cafodd tri unigolyn o Gymru bwrsariaethau i ddatblygu sgiliau arbenigol mewn gwaith gof, melino hetiau, a gwaith coed, sy’n helpu i ddiogelu traddodiadau crefft, gan hefyd agor drysau newydd i bobl sy’n wynebu rhwystrau sylweddol i hyfforddiant a chyflogaeth.

“Gall y pethau bach wneud byd o wahaniaeth” – Cefnogi cymunedau drwy’r argyfwng costau byw

“Gall y pethau bach wneud byd o wahaniaeth” – Cefnogi cymunedau drwy’r argyfwng costau byw

Banc Bwyd Rhydaman

Dathlu Mis Pride a phwysigrwydd cefnogaeth gymunedol yng Nghymru

Dathlu Mis Pride a phwysigrwydd cefnogaeth gymunedol yng Nghymru

Rrydym yn falch o gefnogi nifer o sefydliadau sy’n gweithio drwy gydol y flwyddyn i wella bywydau pobl LGBTQ+ ledled Cymru.