Chwarae gyda phwrpas ym Mhowys

Cronfa Goffa Stanley Bligh (rhan o gronfa ymbarél Gwaddol Cymunedol Powys)

Chwarae gyda phwrpas ym Mhowys

“Allwch chi ddim aros tan heno? Allwch chi ddim aros drwy’r nos a bod yma i ni yfory? Allwch chi ddim bod yma drwy’r amser?”

“Diolch i’r holl Staff am ei gwneud yn sesiwn ddysgu hyfryd a phleserus gyda choginio fel pwnc, sy’n amhrisiadwy.”

Diolch i gyllid aml-flwyddyn gan Gronfa Goffa Stanley Bligh, mae Chwarae Maesyfed wedi gallu ehangu ei gyrhaeddiad a dyfnhau ei effaith ledled Powys. O goginio mewn coedwigoedd a cheginau mwd i grwpiau chwarae cynhwysol a dosbarthiadau coginio iach, mae’r grŵp yn rhoi lle i blant a theuluoedd ddod at ei gilydd a chreu. 

Mae plant a phobl ifanc ym Mhowys – yn enwedig y rhai ag anableddau, o deuluoedd incwm isel, neu’n byw mewn ardaloedd gwledig – yn aml yn wynebu rhwystrau i gyfleoedd cymdeithasol a hamdden. Mae Chwarae Maesyfed yn bodoli i fynd i’r afael â’r bwlch hwnnw, ond roedd angen cyllid i gynnal a thyfu eu rhaglenni hanfodol a’u cynhwysedd staff. 

Cefnogodd y cyllid gyflogau staff a chostau rhedeg craidd, gan alluogi tair blynedd o weithgareddau chwarae a dysgu dibynadwy. Yn y flwyddyn gyntaf yn unig, enillodd Chwarae Maesyfed Wobr Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr, cyflogodd gydlynydd, a recriwtiodd 15 o wirfoddolwyr. Fe gynhalion nhw sesiynau mewn parciau, mannau gwyrdd a lleoliadau cymunedol, gan gwmpasu popeth o adeiladu ffau a chrefft coed i goginio a chwarae natur. 

Ymunodd plant ar draws 24 o leoliadau ym Mhowys mewn sesiynau chwarae haf ar ystadau tai, yng Ngwersyll Byddin Aberhonddu a Ffair Wanwyn Frenhinol Cymru. Daeth fan Play Ranger Chwarae Maesyfed yn olygfa groesawgar i lawer o blant nad oes ganddyn nhw lawer o weithgareddau ar gael fel arall. Hyd yn hyn, mae 79 o blant a phobl ifanc wedi cymryd rhan mewn sesiynau coginio iach, tra bod digwyddiadau cynhwysol fel ‘Mwd a Ffyn’ ac ‘Aros a Chwarae’ yn parhau i ddod â theuluoedd ynghyd.

Stories

Buddsoddi mewn pobl, sgiliau a threftadaeth: cefnogi’r genhedlaeth nesaf o grefftwyr Cymreig

Buddsoddi mewn pobl, sgiliau a threftadaeth: cefnogi’r genhedlaeth nesaf o grefftwyr Cymreig

Cafodd tri unigolyn o Gymru bwrsariaethau i ddatblygu sgiliau arbenigol mewn gwaith gof, melino hetiau, a gwaith coed, sy’n helpu i ddiogelu traddodiadau crefft, gan hefyd agor drysau newydd i bobl sy’n wynebu rhwystrau sylweddol i hyfforddiant a chyflogaeth.

“Gall y pethau bach wneud byd o wahaniaeth” – Cefnogi cymunedau drwy’r argyfwng costau byw

“Gall y pethau bach wneud byd o wahaniaeth” – Cefnogi cymunedau drwy’r argyfwng costau byw

Banc Bwyd Rhydaman

Dathlu Mis Pride a phwysigrwydd cefnogaeth gymunedol yng Nghymru

Dathlu Mis Pride a phwysigrwydd cefnogaeth gymunedol yng Nghymru

Rrydym yn falch o gefnogi nifer o sefydliadau sy’n gweithio drwy gydol y flwyddyn i wella bywydau pobl LGBTQ+ ledled Cymru.

Sut y gall grantiau bach greu cyfleoedd sy’n newid bywydau

Sut y gall grantiau bach greu cyfleoedd sy’n newid bywydau

Pan fydd pobl yn meddwl am ddyngarwch, yn aml y rhoddion mawr a’r ymgyrchoedd codi arian sylweddol sy’n dod i’r meddwl. Ond gall symiau cymharol fach o gyllid hefyd gael effaith drawsnewidiol ar ddyfodol rhywun.