Dod o hyd i gysylltiad drwy Sign and Share Club
Mae cefnogaeth gan Gronfa i Gymru yn helpu pobl fyddar a phobl drwm eu clyw i feithrin hyder, cyfeillgarwch ac ymdeimlad o berthyn.
“Ymunais yn ystod y cyfnod clo, ac mae wedi bod yn achubiaeth byth ers hynny.”
I lawer ohonom ni, gall sgwrs gyfeillgar, diwrnod allan gyda ffrindiau neu wybod bod rhywun yn deall eich profiadau wneud byd o wahaniaeth.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Sign and Share Club wedi bod yn creu’r cyfleoedd hynny i bobl fyddar a phobl drwm eu clyw ledled gorllewin Cymru diolch i grant o £2,000 gan Gronfa i Gymru, a ariennir gan chwaraewyr Postcode Lottery.
Helpodd y cyllid i ddarparu rhaglen amrywiol o weithgareddau, gan gynnwys teithiau i’r theatr, ymweliadau ag amgueddfeydd, boreau coffi, sesiynau crefft a hyfforddiant ymwybyddiaeth byddardod. Lansiodd y clwb grŵp i blant Byddar a’u teuluoedd hefyd, gan ehangu ei gyrhaeddiad a chreu cyfleoedd newydd i feithrin cysylltiadau.
Yn gyffredinol, cymerodd mwy na 120 o bobl ran mewn digwyddiadau a gweithgareddau, tra bod 19 o bobl wedi derbyn cefnogaeth drwy wasanaeth cyfeillio’r clwb. Roedd y gefnogaeth bersonol hon yn cynnwys cymorth i fynychu apwyntiadau, rheoli materion ariannol, cael mynediad at weithgareddau cymunedol a lleihau unigrwydd.
Yn ogystal â gweithgareddau cymdeithasol, darparodd y clwb gymorth ymarferol, gan gynnwys cymorth gyda chymhorthion clyw a chyfleoedd i ddysgu Iaith Arwyddion Prydain (BSL).
Mwy na gweithgareddau yn unig
Roedd ymatebion i’r arolwg yn dangos y gwahaniaeth y mae’r clwb yn ei wneud:
- Dywedodd 90% o’r cyfranogwyr fod eu hyder a’u hunan-barch wedi gwella
- Nododd 87% welliannau yn eu hiechyd meddwl a’u llesiant
- Dywedodd 87% eu bod wedi cryfhau eu rhwydweithiau cymdeithasol
- Teimlodd 93% eu bod wedi ennill sgiliau a gwybodaeth newydd
I Sign and Share Club, mae’r nod wedi bod yn fwy na threfnu gweithgareddau. Mae’n ymwneud â helpu pobl i deimlo eu bod yn cael eu derbyn, eu deall a’u cynnwys, gan roi’r cyfle iddynt feithrin cyfeillgarwch, datblygu hyder a theimlo eu bod yn rhan o gymuned. Diolch i gefnogaeth Cronfa i Gymru, mae cannoedd o bobl wedi gallu gwneud yn union hynny.
Stories
Cadw’r drws ar agor i bobl ifanc yn Native Naext Academy
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae grant o £2,000 gan Cronfa i Gymru, a ariannwyd gan Postcode Lottery, wedi helpu Native Radio i dalu costau rhedeg ei stiwdio gymunedol, gan sicrhau bod y gofod yn parhau ar agor ac ar gael i bobl ifanc drwy gydol y flwyddyn.
Creu cyfleoedd drwy’r theatr: sut mae Cronfa i Gymru yn cefnogi Papertrail
Diolch i grant o £2,000 gan Cronfa i Gymru, a ariannwyd gan chwaraewyr Postcode Lottery, mae'r sefydliad wedi parhau â'i waith o greu cyfleoedd i artistiaid Byddar, anabl a'r rhai sydd heb gael cynrychiolaeth ddigonol, gan helpu i wneud theatr yn fwy hygyrch ledled Cymru.